Cyhoeddiad terfynol Mewngofnodi Defnyddiwr Unigol

This page is a translated version of the page Single User Login finalisation announcement and the translation is 100% complete.
Am y diweddara, gweler mw:SUL finalisation.

Mae tîm datblygwyr Sefydliad Wikimedia yn aildrefnu sut mae rhai cyfrifon yn gweithio, fel rhan o'n hymgais parhaus i ddarparu teclynnau newydd gwell i'n ddefnyddwyr (megis hysbysiadau traws-wici). Er mwyn cynnal y newidiadau hyn, bydd rhaid cael yr un enw cyfrif ymhobman. Bydd hyn yn ein galluogi i gynnig teclynnau newydd ichi fydd yn eich helpu i olygu a thrafod yn well, a bydd yn caniatáu hawliau defnyddwyr mwy hyblyg ar gyfer teclynnau. Un o'r rhag-amodau ar gyfer hyn ydy y bydd raid i gyfrifon defnyddwyr fod yn unigryw ar draws y 900 wici Wicimedia.

Yn anffodus, nid oes enw unigryw ar bob cyfrif ar wicis Wikimedia drwyddi-draw; yn hytrach fe geir weithiau mwy nag un defnyddiwr yn defnyddio'r un enw a'i gilydd ar eu cyfrifon. Er mwyn sicrhau y bydd pob un o'r defnyddwyr hyn yn gallu defnyddio wicis Wikimedia o hyn ymlaen, fe fyddwn yn ailenwi rhai o'r cyfrifon hyn drwy ychwanegu ~ ac enw'r wici at ddiwedd yr enw presennol. Nid yw dyddiad y newid wedi cael ei bennu eto. Er enghraifft, byddai defnyddiwr o'r enw Enghraifft ar y Wiciadur Swedeg yn cael ei ailenwi yn Enghraifft~svwiktionary.

Bydd pob cyfrif yn gweithio fel ag o'r blaen, a bydd holl olygiadau'r cyfrif yn cael eu tadogi i'r cyfrif ar yr enw newydd. Ond fe fydd y defnyddwyr hynny sydd ag enwau newydd i'w cyfrifon yn gorfod defnyddio'r enw newydd wrth fewngofnodi. Byddwn yn cysylltu â'r defnyddwyr hynny bob yn un ac un.

Mae'r gallu i ailenwi defnyddwyr yn lleol wedi'i ddiddymu, er mwyn atal problemau. Ond gellir gwneud cais am hynny drwy ddefnyddio Arbennig:GlobalRenameRequest ar eich wici lleol, neu ofyn i ofyn i Stiward yma ar Meta i'ch cynorthwyo i wneud yr Ailenwi.

Gweler hefyd