Fundraising 2012/Translation/Donor information pages

This page is a translated version of the page Fundraising 2012/Translation/Donor information pages and the translation is 98% complete.
Outdated translations are marked like this.


Diddymu neu newid cyfraniadau rheolaidd

Rydym yn gwerthfawrogi eich cyfraniad at Sefydliad Wicifryngau, a thrwy hynny eich bod yn cefnogi gwybodaeth rydd. Gwyddwn bod amgylchiadau'n gallu newid fel nad oes modd parhau i roi'n rheolaidd. Os ydych am ddiddymu'ch rhodd rheolaidd neu ei newid, dilynwch y cyfarwyddiadau isod:

PayPal
  • Bydd angen i chi fewngofnodi i'ch cyfrif PayPal, yna mynd at eich proffil yn "My Account", pwyso ar "Account info" ac yna ar "Preapproved payments".
  • Dilynwch y cyfarwyddiadau ar y sgrin o hynny ymlaen. Cewch ragor o wybodaeth ar PayPal.
  • Neu gallwch ddilyn y cyfarwyddiadau isod ar dalu gyda cherdyn credyd. Ond cofiwch y gallwn ddiddymu rhoddion PayPal ond na allwn eu newid.
Cerdyn credyd
  • Anfonwch e-bost (yn Saesneg) at giving wikimedia.org gan nodi'r math o newid yr ydych am ei wneud a chyn gymaint o wybodaeth a allwch ynglŷn â'r rhodd gwreiddiol, megis:
    • Y cyfeiriad e-bost yr anfonwyd derbynneb y rhodd iddo
    • Yr enw llawn a roddwyd
  • Byddwch yn derbyn cadarnhad drwy ebost pan gaiff y newid ei gwblhau.

Problemau wrth roi

Os ydych yn cael trafferth cyfrannu neu am ofyn cwestiynau, darllenwch ein cwestiynau aml eu gofyn. Os ydych yn petruso o hyd neu am gymorth i ddilyn hynt eich taliad, mae croeso i chi gysylltu â donate@wikimedia.org.

Ydy'r wefan hon yn ddiogel?
Mae gwefan rhoi i Sefydliad Wicifryngau yn ddiogel iawn; Verisign Trusted yw sail ei pheirianwaith. Wedi ichi glicio ar faner neu ddilyn gyswllt rhoi, byddwch yn glanio ar dudalen sydd ar wefan ddiogel (https); mae'r holl fanylion a roddir arni yn cael eu hamgryptio a'u trin yn ôl safonau uchaf gwarchod data.
Nid yw'r dull talu sydd orau gennyf yn cael ei gynnig eto gan Sefydliad Wicifryngau.
Ymddiheurwn na allwn gynnig eich hoff ddull o dalu ar hyn o bryd; rydym yn gobeithio gallu ychwanegu dulliau eraill o dalu a hynny mewn ehangach ddewis o arian breiniol. Hoffwn wybod felly, pa ddulliau talu a arferir yn bennaf gennych chi a'ch gwlad - mae croeso i chi anfon e-bost o adborth atom, gan nodi eich gwlad a'ch hoff ddull o dalu.
Byddwn yn ceisio ychwanegu'r opsiynau hyn cyn bo hir. Yn y cyfamser, gallwch edrych ar yr URL sy'n dilyn i gael gwybod am opsiynau eraill y gallant fod o ddefnydd i chi: Moddau rhoi
Pam y gwrthodwyd fy nhaliad drwy gerdyn credyd neu ddebyd?
Os gwrthodwyd eich taliad neu os na lwyddoch roi manylion eich cerdyn ar ein tudalen rhoi, a wnewch chi wirio eich cerdyn credyd neu ddebyd am y rhesymau posib sy'n dilyn:
  • Rhaid i chi ddefnyddio cerdyn credyd/debyd sydd wedi ei alluogi ar gyfer defnydd rhyngwladol. Ar hyn o bryd ni allwn drin cardiau sydd yn gallu cael eu defnyddio o fewn eu gwlad eu hunain yn unig (fe'i gelwir yn gardiau Gwladol). Byddwch gystal â gofyn i'ch banc eich galluogi i anfon arian dramor.
  • Dim ond yn eu gwledydd eu hunain y derbynnir cardiau credyd Unol Daleithiau America, y Deyrnas Unedig a Chanada.
  • Ni ellir derbyn pob math o Gerdyn Rhithwir ar hyn o bryd. Defnyddir cardiau rhithwir yn aml i brynu ar-lein, er mwyn gwarchod y wybodaeth sensitif ar eich cerdyn blastig. Fodd bynnag, mae ein system prosesu rhoddion yn cael ei chynnal gan gwmniau prosesu proffesiynol, sy'n cydymffurfio â safonau perthnasol, ac mae eich gwybodaeth yn ddiogel iawn. Felly os caiff eich cerdyn rhithwir ei wrthod, defnyddiwch eich cerdyn credyd neu ddebyd arferol os gwelwch yn dda.
  • Os ydych yn talu â cherdyn debyd, sylwch fod dewis gennych i lanw'r cod diogelu (C V V) neu beidio. Os nad oes C V V ar eich cerdyn debyd, gallwch adael y blwch hwnnw'n wag.
  • Gall eich banc fod wedi atal y taliad dros dro. Mae hyn yn fwy tebyg o ddigwydd y tro cyntaf yr ydych yn cyfrannu at Wicifryngau. Ffoniwch eich banc os gwelwch yn dda, a gofyn iddynt ddad-flocio taliadau i Wicifryngau, er mwyn gallu talu rhoddion i Wicifryngau.
Pam y cefais nodyn o rybudd neu o wall wrth i mi geisio rhoi?
Peidiwch â phoeni os y gwelwch nodyn o rybudd neu o wall wrth geisio rhoi. Mwy na thebyg mai'r achos yw bod eich porwr ar ôl yr oes. Diweddarwch eich porwr os gwelwch yn dda, neu defnyddiwch borwr arall. Os bydd y broblem yn parhau, anfonwch e-bost at donate@wikimedia.org

Polisi Ad-dalu

Os ydych am dderbyn ad-daliad o'ch rhodd, am unrhyw reswm, cysylltwch â ni drwy e-bost (yn Saesneg sydd orau) at donate@wikimedia.org. Bydd angen y wybodaeth sy'n dilyn arnom er mwyn gallu gwneud yr ad-daliad:

  • Dyddiad rhoi: os ydych am wneud cais am ad-daliad, rhaid ei wneud cyn pen 90 diwrnod wedi'r dyddiad rhoi
  • Y swm a roddwyd (Mae rhoddion mawrion sy'n fwy na USD $10,000 yn cael eu trin yn ôl termau'r cytundeb grant perthnasol rhwng y Sefydliad a'r rhoddwr)
  • Enw llawn
  • Y dull talu a ddefnyddiwyd (cerdyn credyd, trosglwyddiad banc, E-waled, ...)
  • Gwlad tarddiad y taliad
  • Y rheswm dros ad-dalu

Sylwer nad yw pob dull talu yn cynnal ad-daliad, neu bod ad-daliad yn gorfod cael ei wneud drwy'r un dull (yr un cerdyn) ag a ddefnyddiwyd i dalu. Gan hynny, gall fod angen rhagor o wybodaeth er mwyn cyflawni'r ad-daliad. Caiff pob cais am ad-daliad ei brosesu cyn gynted ag y bod modd, ond mae'r amser prosesu yn amrywio yn ôl dull y taliad.

Rhoddion Cyfatebol

Gallwch o bosib ddyblu neu dreblu eich rhodd i Sefydliad Wicifryngau drwy gynllun Rhoddion Cyfatebol. Mae nifer o gwmnïau yn cefnogi rhoi dyngarol ar ran eu gweithwyr drwy gynnig cynllun rhoi cyfatebol. Gallwch gynyddu gwerth eich rhodd, heb iddo gostio dim i chi, drwy fanteisio ar gynllun rhoi cyfatebol eich cyflogwr. A wnewch chi ofyn i'ch adran Adnoddau Dynol a fyddent yn fodlon rhoi i Sefydliad Wicifryngau yn gyfateb i'ch rhodd eich hunan, os gwelwch yn dda.

Sut mae'r cynllun hwn yn gweithio?

Er bod cynlluniau rhoi cyfatebol yn amrywio o gwmni i gwmni, fel arfer mae'r broses yn un syml iawn:

  1. Cadarnhewch bod gan eich cyflogwr gynllun rhoi cyfatebol a mynnwch y ffurflenni Rhoddion Cyfatebol gan eich cyflogwr
  2. Llanwch y ffurflen a'i hanfon at Sefydliad Wicifryngau, i'r cyfeiriad hwn:
    Wikimedia Foundation, Inc.
    P.O. Box 98204
    Washington, DC 20090-8204 USA
  3. neu trwy ebost at: matching@wikimedia.org
  4. Fe fydd Sefydliad Wicifryngau yn gwirio'ch rhodd ac yn anfon y ffurflen yn ôl at eich cyflogwr
  5. Bydd eich cyflogwr yn anfon rhodd gyfatebol i Sefydliad Wicifryngau
  6. Dylid anfon rhoddion cyfatebol at:
Er gwybodaeth, 20-0049703 yw ein Cyfeirnod Treth yn yr Unol Daleithiau.

Yr Ymgyrch Ffederal Gyfun

Mae Sefydliad Wicifryngau ar restr y sefydliadau cenedlaethol/rhyngwladol annibynnol, sef y Rhestr Elusennau a gedwir gan Ymgyrch Ffedral Gyfun (CFC) yr Unol Daleithiau, yn 2011. 61478 yw ein cyfeirnod. 61478.

Sefydliadau sydd wedi cefnogi Sefydliad Wicifryngau drwy haelioni eu gweithwyr

Mae llawer o bobl ynghyd â'u cyflogwyr eisoes wedi rhoi ar y cyd i Sefydliad Wicifryngau. Rydym yn ddiolchgar iddynt am eu cefnogaeth a'u haelioni. Mae rhestr ohonynt yn dilyn, gyda dolenni at wybodaeth am eu cynllun rhoi cyfatebol: