Codi arian/Cyfieithiad/Ebost o ddiolch 20131202

This page is a translated version of the page Fundraising/Translation/Thank you email 20131202 and the translation is 91% complete.

[ifFirstnameAndLastname] Annwyl [given name], [elseifFirstnameAndLastname] Annwyl roddwr [endifFirstnameAndLastname]

DIOLCH YN FAWR i chi am gefnogi Sefydliad Wikimedia, y sefydliad di-elw sy'n gyfrifol am Wicipedia a'i chwaer-brosiectau.

[ifRecurringProblem] We recently resolved a small technical issue which paused some monthly recurring donations. We have reinstated your recurring donation, and it will process normally going forward. We will not charge you for the months that were skipped. Thank you for your patience and your support, and please feel free to email donate@wikimedia.org if you have any questions. [endifRecurringProblem]

Mae eich rhodd yn talu am ein costau ni o gynnig gwybodaeth i chi a darllenwyr eraill Wicipedia.

Mae darllenwyr Wicipedia yn cynnwys y ffermwr wedi ymddeol, yn nhalaith Efrog Newydd, sy'n defnyddio Wicipedia i astudio gwyddor llaca, a'r myfyriwr yn Kuala Lumpur sy'n ymchwilio cemeg organig. Mae'n cynnwys y peiriannydd o Brydain dorrodd asgwrn ei gefn mewn damwain, sy'n defnyddio Wicipedia i ddysgu gwaith newydd datblygwr gwe iddo'i hun. Hefyd y gwas sifil yn y Ffindir a ddyfeisiodd fersiwn all-lein o Wicipedia i'w ddefnyddio mewn ysgol yn Ghana. Ac hefyd y tad yn Ninas Mecsico sy'n hebrwng ei ferched i'r amgueddfa ar benwythnos ac yn defnyddio Wicipedia i'w cynorthwyo i ddeall yr hyn maent yn eu gweld yno.

Nod Wicipedia yw dod a holl wybodaeth dynolryw i bawb drwy'r byd yn eu mamiaith. Mae hynny'n her anferth, ac eto gyda 30 miliwn o erthyglau mewn 287 o ieithoedd, fe ddwedwn ein bod, diolch i chi a'ch tebyg, yn ateb yr her.

Ar ran Sefydliad Wikimedia, a'r hanner biliwn o ddarllenwyr eraill Wicipedia ym mhedwar ban byd: diolch. Trwy eich bod yn cyfrannu at gostau Wicipedia, gallwn hepgor hysbysebion a chadw'n ddiduedd, gan ganolbwyntio ar gynorthwyo'r darllenwyr yn unig. Mae hyn yn union fel ag y dylai fod.

Hwyrach i chi sylwi ein bod wedi newid yr ymgyrch codi arian fel bod y mwyafrif yn gweld y baneri ychydig droeon yn unig, yn hytrach nag am wythnosau pen bwy gilydd. O fwriad mae hyn: dydy ni ddim am boeni pobl o fynd ar ein gofyn o hyd ac o hyd. Ond mae hyn yn golygu y bydd llai o bobl yn deall ein bod yn sefydliad di-elw, ac ein bod angen cymorth. Felly os ydych yn fodlon, fe fyddwn yn gwerthfawrogi petaech yn gallu lledu'r gair drwy anfon yr e-bost hwn at rai o'ch ffrindiau.

Ac fe fyddwn yn falch petaech yn ymuno yn y gwaith o ysgrifennu Wicipedia. Mae'r gwaith o ysgrifennu Wicipedia yn cael ei gynnal yn gyfangwbl gan wirfoddolwyr - degau o filoedd o bobl trwy'r byd i gyd, pobl cyffredin fel ni. Os y sylwch ar gamsillafiad neu wall bach ar Wicipedia, mae croeso i chi ei gywiro. Mae rhai yn cael boddhad mawr o wneud hyn, ac efallai y cewch chwithau'r un boddhad.

Diolch eto. Rwyn gwerthfawrogi eich bod yn ymddiried ynom, ac yn addo hyn: fe fyddwn yn defnyddio'ch arian yn gall ac yn ofalus.

Diolch,
Sue

Sue Gardner

Prif Weithredwr,
Sefydliad Wikimedia

[#donate donate.wikimedia.org]

Mae rhai cyflogwyr yn ateb cyfraniadau eu gweithwyr, sydd yn dyblu eich cyfraniad: gallwch holi i'ch cyflogwr a oes ganddynt gynllun cydweddu rhoddion. Gallwch ein dilyn ar [#twitter Twitter], [#identica identi.co] neu ar [#google Google+], ein hoffi ar [#facebook Facebook] a [#blog darllen ein blog]. Dyma [#annual adroddiad blynyddol Sefydliad Wikimedia am 2012-13], [#plan cynllun blynyddol Sefydliad Wikimedia am 2013-14] a [#strategic chynllun strategol 5 mlynedd Sefydliad Wikimedia]. Gallwch brynu nwyddau Wicipedia yn ein [#shop shop.wikimedia.org].

Dyma gofnod o'ch cyfraniad: Derbyniwyd rhodd o [amount] gennych ar [date] gyda'r cyfeirnod [contributionId].

[ifRecurring] Mae'r rhodd hon yn ran o danysgrifiad rheolaidd. Bydd taliadau misol yn cael eu codi gan Sefydliad Wikimedia tan eich bod yn ein hysbysu i ymatal. Os hoffech ddiddymu'r taliadau darllenwch ein [#recurringCancel cyfarwyddiadau syml ar ddiddymu]. [endifRecurring]

Mae'r llythyr hwn yn gofnod o'ch rhodd. Ni gyflenwyd unrhyw nwyddau na gwasanaethau, yn rhannol nac yn gyflawn, yn dâl am y cyfraniad hwn. Mae Wikimedia Foundation, Inc. yn gorfforaeth di-elw elusennol ac iddi statws di-dreth 501(c)(3) yn Unol Daleithiau America. 149 New Montgomery, 3rd Floor, San Francisco, CA, 94105 yw ein cyfeiriad. Rhif di-dreth yr UD: 20-0049703

Dewis peidio â derbyn e-byst:

Hoffwn roi gwybod i chi am ddigwyddiadau ein cymuned ac am ymgyrchoedd codi arian eraill. Ond os oes gwell gennych chi beidio â derbyn e-byst am hyn oddi wrthym, gallwch glicio isod ac fe'ch tynnwn oddi ar y rhestr.

[#unsubscribe Dad-danysgrifio]

Helpwch ni i [#translate gyfieithu'r] e-bost hwn.