Fundraising 2012/Translation/Donor survey

This page is a translated version of the page Fundraising 2012/Translation/Donor survey and the translation is 100% complete.


E-mail

Email subject

Arolwg Noddwyr Sefydliad Wicifryngau - Helpwch ni gyda'ch adborth os gwelwch yn dda

Email body

Annwyl <name>,

Rydych wedi derbyn yr ebost hwn am eich bod wedi cyfrannu i Sefydliad Wicifryngau yn ystod ein hymgyrch codi arian blynyddol. Mae eich cefnogaeth yn hynod werthfawr; diolch o galon i chi.

Byddem wrth ein bodd yn derbyn eich adborth ynglŷn â'ch profiad chi o gyfrannu. Mae'r adborth hwn yn bwysig i ni er mwyn ein galluogi i ddarparu gwell profiad i chi a chyfranwyr eraill o'ch gwlad, felly a fyddech gystal â threulio munud neu ddau yn ateb rhai cwestiynau am ein hymgyrch codi arian?

Er mwyn gweld yr Arolwg Rhoddwyr, cliciwch fan hyn: <survey link>.

Os oes gennych unrhyw adborth arall neu y byddai'n well gennych anfon ebost atom, mae croeso i chi ddanfon eich sylwadau i donorsurvey@wikimedia.org. Gwerthfawrogwn eich cefnogaeth!

Diolch, Tîm Codi Arian Wicifryngau


Arolwg Rhoddwyr

Mae angen adborth oddi wrth gyfrannwyr ar Wicipedia er mwyn dod i wybod am wybodaeth berthnasol am wledydd unigol, a'r dulliau gorau o sicrhau bod y profiad o gyfrannu yn foddhaol. Bydd eich atebion i'r cwestiynau isod yn ein galluogi i ddarparu profiad gwell i gyfrannwyr eraill o'ch cwr chi o'r byd. A fyddech gystal a tharo golwg ar y dudalen rhoi er mwyn i chi allu ateb y cwestiynau isod.

1. Beth oedd eich rheswm pwysicaf dros gyfrannu?

  • Rwyn cefnogi gwybodaeth rydd i bawb.
  • Roedd yr apêl yn ddidwyll ac yn syml.
  • Rwyn defnyddio Wicipedia drwy'r amser ac roeddwn eisiau ei gefnogi.
  • Er mwyn cadw Wicipedia yn rhydd o hysbysebion.
  • Arall (noder os gwelwch yn dda)

2. Pa argraff gawsoch o ddarllen apêl bersonol Jimmy Wales, sylfaenydd Wicipedia?

  • Roedd yn neges effeithiol ac roeddwn yn medru uniaethu ag ef.
  • Cafodd ei ysgrifennu'n glir mewn iaith roeddwn i'n deall.
  • Roedd yr iaith a ddefnyddiwyd yn aneglur neu'n anodd i'w deall.
  • Roedd rhannau o'r neges wedi fy nrysu.
  • Roedd y rhan fwyaf o'r neges yn aneglur.
  • Roedd y neges yn dila ac nid oeddwn yn medru uniaethu ag ef.
  • Arall (noder os gwelwch yn dda)

3. Pa arian cyfred fyddai orau gennych chi gyfrannu?

  • Rand De Affrica (ZAR)
  • Ffranc CFA Gorllewin Affrica (XOF)
  • Ffranc CFA Canol Affrica (XAF)
  • Swllt Cenia (KES)
  • Ewro (EUR)
  • Doler yr Unol Daleithiau (USD)
  • Arall (noder os gwelwch yn dda)

4. A fyddech yn ystyried cyfrannu hyd yn oed os nad oedd modd cyfrannu drwy ddefnyddio'ch arian cyfred lleol?

  • Na fyddwn, dim ond gyda fy arian cyfred lleol y buaswn yn cyfrannu.
  • Byddwn. Buaswn yn cyfrannu ta beth, hyd yn oed mewn arian cyfred tramor.
  • Byddwn, ond buaswn yn cyfrannu gyda'r arian cyfred canlynol yn unig:

(nodwch fwy nag un os oes angen)

5. Pa ddull(iau) talu fyddai orau gennych chi?

  • Cerdyn credyd
  • Cerdyn debyd
  • Trosglwyddiad banc
  • Cerdyn rhagdalu
  • PayPal
  • Ychwanegu'r swm at fil eich ffôn symudol
  • Arall (nodwch fwy nag un os oes angen)

6. A fyddech chi'n ystyried cyfrannu pe na bai eich hoff ddull o dalu (cerdyn credyd, trosglwyddiad banc, a.y.y.b.) ar gael?

  • Na fyddwn. Dim ond gyda fy hoff ddull o dalu y bydden i'n cyfrannu.
  • Byddwn. Bydden i'n cyfrannu ta beth.
  • Arall (noder os gwelwch yn dda)

=== 7. Yn eich tyb chi, a yw'r symiau ar ochr dde'r ffurflen yn addas ar gyfer yr arian cyfred sydd ar gael? [URLGOESHERE Cliciwch yma] i weld y ffurflen. ===

  • Ydyn, maent yn ymddangos yn addas.
  • Nac ydyn. Mae'r symiau'n ymddangos yn rhy uchel.
  • Nac ydyn, mae'r symiau'n ymddangos yn rhy isel.
  • Os nad ydynt, pa symiau fyddai fwyaf addas:

8. Cliciwch ar y ddolen os gwelwch yn dda. Bydd hyn yn mynd â chi i'r ffurflen gyfeiriad ar ein tudalen gyfrannu. A yw hyn yn cydfynd â'r ffordd y byddech yn ysgrifennu'ch cyfeiriad fel arfer? Cliciwch yma i weld y ffurflen.

  • Ydy, mae'n cydfynd â'r ffordd rwyn ysgrifennu fy nghyfeiriad
  • Nac ydy, roedd meysydd/gormod o feysydd ar goll.
  • Os nac ydy, dywedwch wrthym beth oedd o'i le neu rhowch enghraifft o'r fformat cywir ar gyfer cyfeiriadau yn eich gwlad chi.

Yn gyffredinol, a oedd y tudalennau, dolenni a meysydd gwybodaeth yn hawdd i'w deall ac mewn iaith yr oeddech yn teimlo'n gyfforddus yn ei defnyddio?

  • Oedd. Deallais bopeth.
  • Nac oedd. Roedd rhai meysydd/cyfieithiadau/opsiynau yn aneglur neu'n anghywir.
  • Os nad oeddent, dywedwch wrthym sut i wella:

10. Beth oedd eich barn gyffredinol am y dudalen gyfrannu?

  • Roedd yn defnyddio terminoleg lleol ac opsiynau lleol a grewyd yn benodol ar gyfer fy ngwlad i.
  • Roedd yn defnyddio terminoleg lleol ac opsiynau lleol, ond roedd yna rai elfennau a oedd yn anghywir.
  • Roedd yn defnyddio terminoleg lleol ac opsiynau lleol, ond roedd yna lawer o elfennau a oedd yn anghywir.
  • Edrychai fel petai wedi ei greu ar gyfer gwlad gwahanol.
  • Arall (noder os gwelwch yn dda)

11. Defnyddiwch y blwch isod i nodi unrhyw fanylion neu adborth pellach sydd gennych ynglŷn â'r dudalen a'r neges gyfrannu.

Diolch i chi unwaith eto am gefnogi Wicifryngau, y sefydliad di-elw sy'n cynnal Wicipedia.

Mae eich preifatrwydd yn bwysig i ni. Ag eithrio gofynion cyfreithiol, dim ond gyda Wicifryngau a'i gontractwyr y byddwn yn rhannu'ch ymatebion. Fodd bynnag, mae'n bosib y byddwn yn rhannu ymatebion anhysbys ac ystadegau ynglŷn â'r arolwg. Ni fyddwn byth yn cyhoeddi eich enw na'ch cyfeiriad ebost; fodd bynnag, mae'n bosib y byddwn yn defnyddio'r wybodaeth honno i gysylltu â chi ynglŷn â Wicifryngau a'i weithgareddau. Mae Wicifryngau yn fudiad bydeang. Trwy ateb y cwestiynau hyn, rydych yn cytuno i'ch ymatebion gael eu trosglwyddo i'r Unol Daleithiau a mannau eraill fel bo angen. Gallwch ddod o hyd i fwy o wybodaeth am bolisi preifatrwydd Survey Monkey yn: http://www.surveymonkey.com/privacypolicy.aspx