Fundraising 2011/Thank You Mail/cy

Translation instructions
  • For pages marked "Missing" or "In progress", click the page title and start translating. When you are done, click "edit status" and change the status to proofreading.
  • For pages marked "Needs updating", compare the page to the source page and update the translation accordingly. When you are done, click "edit status" and change the status to proofreading.
  • It is important to have someone else proofread the translated page! If you have proofread a page and it is ready for publication, click "edit status" and change that page's status to ready.
  • If you are changing something that has already been published, change its status back to ready for it to be published again.

If you have any questions or feedback regarding the translation process, please post them here. Translation FAQ


Annwyl [first name]

Pob clod a diolch i chi am gyfrannu i Sefydliad Wicifryngau!

Dyma sut y cadwn ddau ben llinyn ynghyd -- trwy'r bobl fel chi, sy'n rhoi pumpunt, decpunt neu ganpunt. Daeth fy hoff rodd llynedd oddi wrth merch fach ym Mhrydain, a oedd wedi darbwyllo ei rhieni i adael iddi roi ei harian poced o £5 iddom. Pobl fel chi, yn debyg i'r ferch honno, sy'n galluogi Wicipedia i barhau i ddarparu gwybodaeth ddi-duedd, hawdd ei gael, yn rhad ac am ddim, i bob cwr o'r byd. I bawb sy'n cyfrannu at y gost o'n cynnal, ac ar ran y rhai nad ydynt yn gallu fforddio'n helpu: diolch o galon!

Rwy'n gwybod ei fod yn rhwydd anwybyddu ein hapêl, ac rwy'n falch na wnaethoch hynny. Gennyf fi, a chan y degau o filoedd o wirfoddolwyr sy'n ysgrifennu Wicipedia: diolch am ein helpu i wneud y byd yn well. Byddwn yn defnyddio'ch arian yn ofalus, ac rwy'n diolch i chi am ymddiried ynom.

Diolch,
Sue Gardner
Cyfarwyddwr Gweithredol Sefydliad Wicifryngau


Dewis peidio derbyn e-byst:
Gan eich bod wedi rhoi tuag atom, hoffwn rhoi gwybod i chi am ein gweithgareddau a'n hymgyrchoedd codi arian trwy e-byst. Os oes yn well gennych beidio derbyn yr e-byst hyn, cliciwch isod ac fe dynnwn eich enw oddi ar y rhestr:

[unsub link]

Er gwybodaeth: Derbyniwyd rhodd o [amount] gennych ar [date].

Derbynneb yw'r llythyr hwn. Ni ddarparwyd unrhyw nwyddau na gwasanaethau, yn gyflawn na'n rhannol, am y cyfraniad. Corfforaeth elusennol, di-elw yw Wikimedia Foundation Inc., sydd wedi ei eithrio o dreth yn yr Unol Daleithiau â'r statws 501(c)(3). 149 New Montgomery, 3rd Floor, San Francisco, CA, 94105. U.S. yw'n cyfeiriad, a 20-0049703 yw'n rhif eithrio o dreth.