Fundraising 2011/Susan Letter/cy

Translation instructions
  • For pages marked "Missing" or "In progress", click the page title and start translating. When you are done, click "edit status" and change the status to proofreading.
  • For pages marked "Needs updating", compare the page to the source page and update the translation accordingly. When you are done, click "edit status" and change the status to proofreading.
  • It is important to have someone else proofread the translated page! If you have proofread a page and it is ready for publication, click "edit status" and change that page's status to ready.
  • If you are changing something that has already been published, change its status back to ready for it to be published again.

If you have any questions or feedback regarding the translation process, please post them here. Translation FAQ

Efallai fod gan Google tua miliwn o weinyddwyr. Mae gan Yahoo rywbeth fel 13,000 o aelodau o staff. Dim ond 679 gweinyddwr a 95 aelod o staff sydd gan Wicipedia.

Wicipedia ydy 5ed wefan mwyaf prysur y we ac mae'n gwasanaethu 470 miliwn o bobl bob mis – a hynny oll trwy gyfraniadau oddi wrth ei ddarllenwyr.

Os ydych yn defnyddio Wicipedia, fe sylweddolwch pa mor ryfeddol ydyw i dderbyn yr holl wybodaeth hon heb orfod talu amdani, a heb orfod darllen hysbysebion di-ben-draw, a heb bethau'n fflachio ar yr ochrau ac yn y blaen. Mae'n brofiad pur.

Rwy'n credu y dylai pobl sy'n elwa'n fawr ohono, ac sy'n medru'i fforddio, deimlo dyletswydd foesol i gyfrannu punt neu ddwy o leiaf pe byddent yn gwybod beth sydd ei angen.

Beth am gyfrannu punt neu ddwy heddiw? – neu 5 neu 20!

Yr hyn sy'n anhygoel am Wicipedia ydy bod creaduriaid od fel fi, sy'n dwlu ar bethau rhyfedd fel gastropodiaid (malwod), yn medru dod ynghyd a rhannu ein hangerdd gyda'r byd. Dyna sy'n gwneud Wicipedia mor hudolus – mae yna olau tawel ymhob un ohonom sy'n deillio o'n hawydd i helpu i addysgu, i helpu i rannu gwybodaeth.

Helpwch yr ardd hon o wybodaeth i dyfu trwy wneud cyfraniad heddiw.

Diolch,

Susan Hewitt
Un o awduron Wicipedia