Fundraising 2011/Jimmy Letter 003/cy

Translation instructions
  • For pages marked "Missing" or "In progress", click the page title and start translating. When you are done, click "edit status" and change the status to proofreading.
  • For pages marked "Needs updating", compare the page to the source page and update the translation accordingly. When you are done, click "edit status" and change the status to proofreading.
  • It is important to have someone else proofread the translated page! If you have proofread a page and it is ready for publication, click "edit status" and change that page's status to ready.
  • If you are changing something that has already been published, change its status back to ready for it to be published again.

If you have any questions or feedback regarding the translation process, please post them here. Translation FAQ

Efallai fod gan Google yn agos i filiwn o weinyddion. Mae gan Yahoo tua 13,000 o staff. Mae gennym ni 400 o weinyddion a 73 aelod o staff.

Wicipedia a'i chwaer-wefannau ydy'r pumed wefan fwyaf prysur ar y we ac maent yn gwasanaethu 455 miliwn o bobl wahanol bob mis - gyda biliynau o ymweliadau â thudalennau.

Mae masnach yn ddigon derbyniol. Nid yw hysbysebu yn beth drwg. Ond nid oes lle iddo yma. Nid ar Wicifryngau.

Rhywbeth arbennig ydy SITENAME. Mae'n debyg i lyfrgell neu barc cyhoeddus. Mae'n debyg i deml y meddwl. Rydym i gyd yn rhydd i gael lle yno i feddwl, i ddysgu, ac i rannu'n gwybodaeth ag eraill.

Pan sefydlais Sefydliad Wicifryngau, gallwn fod wedi creu cwmni a fyddai'n creu elw imi trwy faneri hysbysebu, ond penderfynais wneud rhywbeth gwahanol. Rydym wedi gweithio'n galed ar hyd y blynyddoedd i leihau gwastraff a chadw pethau'n dynn. Rydym yn gwireddu'n nod, gan adael y gwastraff i bobl eraill.

Pe bai pawb sy'n darllen hwn yn cyfrannu £5, dim ond am un diwrnod y flwyddyn fyddem yn gorfod codi arian. Ond nid pawb sy'n gallu cyfrannu neu'n fodlon gwneud. Ac mae hynny'n iawn. Bob blwyddyn, mae digon o bobl yn penderfynu cyfrannu.

Eleni, a fyddech cystal ag ystyried gwneud cyfraniad o £5, £10, £20 neu beth bynnag y medrwch ei fforddio er mwyn amddiffyn a chynnal prosiectau Wicifryngau.

Diolch,

Jimmy Wales
Sylfaenydd Wicifryngau