Fundraising 2011/Jimmy Letter 001/cy

Translation instructions
  • For pages marked "Missing" or "In progress", click the page title and start translating. When you are done, click "edit status" and change the status to proofreading.
  • For pages marked "Needs updating", compare the page to the source page and update the translation accordingly. When you are done, click "edit status" and change the status to proofreading.
  • It is important to have someone else proofread the translated page! If you have proofread a page and it is ready for publication, click "edit status" and change that page's status to ready.
  • If you are changing something that has already been published, change its status back to ready for it to be published again.

If you have any questions or feedback regarding the translation process, please post them here. Translation FAQ

Gwirfoddolwr ydw i.

Nid wyf i, na'r miloedd o awduron a golygyddion gwirfoddol eraill, yn derbyn ceiniog o dâl am ein gwaith ar Wicipedia. Pan sefydlais i Wicipedia, gallwn fod wedi ei wneud yn gwmni a oedd yn gwneud elw drwy faneri hysbysebu, ond penderfynais wneud rhywbeth gwahanol.

Mae lle i fasnach. Nid yw hysbysebu'n ddrwg. Ond nid oes lle iddo yma. Nid ar Wicipedia.

Mae Wicipedia'n rhywbeth arbennig. Mae fel llyfrgell neu barc cyhoeddus. Mae fel teml i'r meddwl. Mae'n fan lle gallwn ni gyd fynd i feddwl, dysgu, a rhannu ein gwybodaeth gydag eraill. Mae'n brosiect dynol unigryw, y cyntaf o'i fath mewn hanes. Prosiect dyngarol ydyw i ddod â gwyddoniadur rhydd i bob person ar y blaned.

I bob person.

Pe bai pob un o'r 400 miliwn o bobl sy'n defnyddio Wicipedia yn cyfrannu $5 yr un, byddai gennym ganwaith yr arian sydd ei angen arnom. Pe bai pawb sy'n darllen hwn yn cyfrannu $5 yr un, byddwn yn gallu dod â'r ymgyrch codi arian i ben heddiw. Ond nid pawb sydd am gyfrannu, ynteu'n gallu cyfrannu. Does dim ots am hynny. Bob blwyddym rydym yn derbyn rhoddion gan gynifer o bobl ag sydd eu hangen. Pan fyddwn wedi cyrraedd y nod, mae'r ymgyrch yn dod i ben. Cyfundrefn bychan sydd gennym, ac rydw i wedi gweithio'n galed dros y blynyddoedd i gadw'r mudiad yn ddiwastraff. Rydym yn cyflawni ein nod, ac yn gadael y gwastraffu i eraill.

Er mwyn gallu gwneud hyn heb orfod defnyddio hysbysebion, mae eich angen chi arnom. Chi sydd yn cadw'r freuddwyd hon yn fyw. Chi sydd wedi creu Wicipedia. Chi sydd wedi credu fod man o fyfyrio tawel a dysgu yn werth ei gael.

Eleni, a wnewch chi ystyried gwneud cyfraniad o £5, £20, £50 neu beth bynnag a fedrwch er mwyn cefnogi'r prosiect a chynnal Wicipedia?

Diolch,

Jimmy Wales

Sylfaenydd Wicipedia