Research:Wikipedia Editors Survey 2011/Translation/cy


Rhagair edit

Arolwg y Golygyddion
2011

Wikimedia Foundation
San Francisco, California, USA

Croeso i Arolwg y Golygyddion ar Wikimedia Foundation. Chi sydd yn gyfrifol am lwyddiant Wicipedia a'i chwaer-brosiectau ac fe wnaiff eich atebion i'r arolwg gyfrannu at wella'r prosiectau eto. Ein bwriad yw defnyddio'r wybodaeth o'r arolwg i ddeall eich profiad o olygu, a thrwy hynny i'w wella. Ar ôl cwblhau'r arolwg byddwch yn gallu gweld ein hadroddiad arno a'r dadansoddiad ohono.

Arolwg peilot yw hwn. Bydd angen rhyw 20-30 munud i'w gwblhau. Byddwn hefyd yn defnyddio gwybodaeth sylfaenol o'ch proffil defnyddiwr wrth ddadansoddi.

Rydym yn sylweddoli ein bod yn gofyn i chi dreulio cyfnod go hir wrth yr arolwg, a hoffwn ddiolch ymlaenllaw am eich cefnogaeth i'r gwaith o gasglu gwybodaeth gwerthfawr a fydd o fudd i ni i gyd.

Diolch am eich amser a'ch cyfraniad!

Cyfrinachedd a thrwyddedu edit

Mae Wikimedia Foundation yn ymroi i gadw cyfrinachedd. Ni fyddwn yn rhyddhau unrhyw wybodaeth am unigolyn i unrhyw sefydliad allanol. Ni fyddwn yn defnyddio'r wybodaeth at unrhyw ddiben nad yw'n gysylltiedig ag amcanion yr arolwg. Wedi i'r canlyniadau gael eu cyffredinoli, hynny yw, eu hamddifadu o'u cysylltiad ag unigolion, byddant yn cael eu rhyddhau i barth y cyhoedd.

Os oes cwestiynau gennych am yr arolwg, neu unrhyw ofidiau am gyfrinachedd, gallwch fynegi'ch gofid yn ddi-enw ar: http://strategy.wikimedia.org/wiki/Editor_survey_feedback.

Cwestiynau rhagarweiniol edit

  • D1a. Diolch am fodloni ateb holiadur arolwg y golygyddion. Dechreuwn wrth eich holi amdanoch chi eich hunan. Pa flwyddyn y dechreuoch chi gyfrannu i Wicipedia?
    • _____
  • D1b. Ers i chi ddechrau golygu Wicipedia, tua faint o olygiadau ydych chi wedi eu gwneud i gyd? (Sylwer: Peidiwch â chynnwys golygiadau a wnaethpwyd gan fotiau)
    • _____
  • D2. Pa oedran ydych chi?
    • _____ Blwydd oed
  • D3a. Pa radd o addysg yw'r uchaf i chi ei gwblhau?
    • Addysg gynradd neu addysg uwchradd hyd at TGAU
    • Addysg uwchradd (Lefel A, Coleg Addysg Bellach, prentisiaeth, a.y.b.)
    • Addysg trydyddol hyd at radd cyntaf (Diploma, Gradd Baglor, Gradd Anrhydedd)
    • Addysg ôl-radd (Gradd Meistr)
    • Addysg ôl-radd (Doethuriaeth)
  • D3b. Ydych chi'n astudio mewn ysgol neu brifysgol ar hyn o bryd?
    • Ydw
    • Nacydw
  • D4. Ydych chi'n gweithio ar hyn o bryd?
    • Ydw, rwy'n gweithio'n llawn amser
    • Ydw, rwy'n gweithio rhan amser
    • Nacydw, nid wy'n gweithio ar hyn o bryd
  • D5a. Ydych chi'n briod, oes partner gennych neu ydych chi'n sengl?
    • Rwy'n briod
    • Mae partner gennyf, ond nid wy'n briod
    • Rwy'n sengl
  • D5b. Oes plant gennych?
    • Oes, mae plant gennyf
    • Nacoes, nid oes plant gennyf
  • D6. Tua faint yw eich incom misol gros? (h.y. cyfanswm eich incwm bob mis, gan gynnwys budd-daliadau ond cyn tynnu trethi)?
    • _____ Swm misol
    • _____ Math o arian breiniol
  • D7a. I ba genedl ydych chi'n perthyn?
    • __________
  • D7b. Ym mha wlad ydych chi'n byw?
    • ______
  • D8. Oes yna gymdeithas rhanbarthol Wikimedia i gael yn y wlad lle ydych chi'n byw?
    • Oes
    • Nacoes
    • Nid wy'n siwr
  • D8a. Ydych chi'n aelod o'r gymdeithas rhanbarthol Wikimedia lleol?
    • Ydw
    • Nacydw
  • D9. Beth yw'ch prif iaith neu ieithoedd? Dewiswch yr holl rai perthnasol.
  • D10. Beth yw eich rhyw?
    • Gwryw
    • Benyw
    • Trawsrywiol
    • Trawsryweddol(Transgender)
  • D11. Ar ddiwrnod arferol, faint o amser ydych chi'n ei dreulio wrth y cyfrifiadur?
    • Mwy na 10 awr
    • 8-9 awr
    • 7-8 awr
    • 5-6 awr
    • 3-4 awr
    • Tua awr
    • Llai nag awr
    • Nid wy'n defnyddio cyfrifiadur bob dydd
  • D12. Mae diddordeb gennym wybod pa mor hyddysg ydych chi yn y defnydd o gyfrifiaduron a rhaglenni cyfrifiadurol. Isod fe welwch restr o wahanol lefelau medrusrwydd ar gyfrifiadur. Dewiswch y lefel mwyaf addas iddoch chi.
    • Nid wy'n gysurus wrth y cyfrifiadur
    • Rwy'n defnyddio fy nghyfrifiadur i ddarllen ebyst, i bori'r rhyngrwyd ac i ddefnyddio prosesydd geiriau.
    • Rwy'n gallu lawrlwytho ffeiliau a rhaglenni a'u gosod ar fy nghyfrifiadur.
    • Rwy'n gallu ysgrifennu meddalwedd a llunio rhaglenni fy hunan.

Adran I: Gweithgaredd a Chyfraniad edit

Mae'r cwestiynau nesaf yn holi am eich gweithgarwch ar Wicipedia.

  • Q1a. I ba fersiynau o Wicipedia o ran iaith ydych chi'n cyfrannu? Dewiswch yr holl ieithoedd perthnasol
  • Q1b. I ba fersiwn o Wicipedia o ran iaith ydych chi'n cyfrannu'n bennaf? Dewiswch UN yn unig.
  • Q2a. Pa fersiynau o Wicipedia o ran iaith ydych chi'n eu darllen? Dewiswch yr holl ieithoedd perthnasol
  • Q2b. Pa fersiwn o Wicipedia o ran iaith ydych chi'n ei ddarllen yn bennaf? Dewiswch UN yn unig.
  • Q3. Pa radd o alluoedd defnyddiwr sydd gennych? (Dewiswch yr holl rai perthnasol)
    • Defnyddiwr Heb Gofrestri (Dim cyfrif gennyf)
    • Defnyddiwr Wedi Cofrestri (Cyfrif sylfaenol)
    • Gweinyddwr
    • Biwrocrat
    • Stiward
    • Archwiliwr Defnyddwyr (Check User)
    • Goruchwyliwr (Oversight(er))
  • Q4a. Mae diddordeb gennym yn y gweithgareddau rydych wedi eu cyflawni'n ddiweddar ar Wicipedia a chymuned Wicipedia. I bob gweithgaredd, a wnewch chi grybwyll pa mor aml ydych chi wedi ei wneud yn ystod y 30 diwrnod diwethaf.
    • Dim o gwbl
    • Anaml
    • O bryd i'w gilydd
    • Yn aml
    • Yn aml iawn
      • Rwy'n ysgrifennu erthyglau newydd
      • Rwy'n casglu gwybodaeth a chyfeiriadau i'w hychwanegu at erthyglau
      • Rwy'n golygu erthyglau sydd eisoes ar gael
      • Rwy'n cyfieithu
      • Rwy'n gweithio i ddatrys problemau hawlfraint, fandaliaeth a phroblemau eraill
      • Rwy'n ateb ymholiadau a chwynion gan ddarllenwyr
      • Rwy'n cymodi mewn anghydfodau rhwng gwirfoddolwyr
      • Rwy'n trefnu gweithgareddau, gweithdai, cyfarfodydd neu cynhadledd flynyddol Wikimania, neu'n cynorthwyo wrthynt
      • Rwy'n cenhadu neu'n hysbysebu Wicipedia i'r cyhoedd
      • Rwy'n gwneud gwaith technegol megis cynnal y gweinyddion neu'r meddalwedd
      • Rwy'n weithgar gyda'r gymdeithas rhanbarthol o Wikimedia
      • Rwy'n trafod erthyglau
      • Rwy'n datblygu polisïau, canllawiau a phenderfyniadau cymunedol tebyg, neu'n eu cynnal
  • Q4b. Isod ceir rhestr debyg o weithgareddau y gellir cyfrannu atynt. Nodwch pa mor aml ydych chi wedi gwneud y gweithgareddau canlynol yn ystod y 30 diwrnod diwethaf.
    • Dim o gwbl
    • Anaml
    • O bryd i'w gilydd
    • Yn aml
    • Yn aml iawn
      • Rwy'n uwchlwytho neu'n golygu cyfryngau, delweddau, mapiau ac ati.
      • Rwy'n cynnal archwiliadau ac yn asesu safon erthyglau ar gyfer dewis erthyglau dethol
      • Rwy'n cyfrannu at brosesau dileu megis dileu cyflym, cynigion i ddileu a thrafodaethau ar erthyglau i'w dileu
      • Rwy'n gweithio ar y ddesg gymorth, neu ar y ddesg gyfeirio i groesawu golygwyr newydd
      • Arall, nodwch fan hyn ______
  • Q5a. Isod ceir rhestr o resymau rhai golygwyr dros DDECHRAU cyfrannu at Wicipedia. Pam oeddech chi wedi DECHRAU cyfrannu at Wicipedia? Dewiswch gynifer o resymau ag sy'n berthnasol os gwelwch yn dda
    • Roeddwn i eisiau gweld os oedd unrhyw un yn gallu golygu
    • Gwelais gamgymeriad, ac roeddwn i eisiau ei gywiro
    • Gwelais ddolen goch neu sylwais fod erthygl ar goll ac felly fe'i hysgrifennais
    • Gwyddwn lawer am bwnc lle nad oedd llawer o wybodaeth
    • Mae fy nheulu, ffrindiau neu gydweithwyr yn cyfrannu at Wicipedia
    • Roeddwn eisiau arddangos fy ngwybodaeth gyda'r cyhoedd neu'r gymuned ehangach
    • Rwy'n hoffi'r syniad o wirfoddoli er mwyn rhannu gwybodaeth
    • Roeddwn eisiau dysgu sgiliau newydd
    • Roeddwn eisiau cyfrannu at drafodaeth ar Wicipedia
    • Gofynnwyd i mi olygu ar gyfer prosiect ysgol neu fy ngwaith
  • Q5b. Isod ceir rhestr o resymau pam fod rhai golygwyr yn PARHAU i gyfrannu at Wicipedia. Pam ydych chi'n PARHAU i gyfrannu at Wicipedia? Dewiswch gynifer o resymau ag sy'n berthnasol os gwelwch yn dda.
    • Rwy'n ei wneud am resymau proffesiynol
    • Rwy'n parhau i chwilio neu ddod o hyd i gamgymeriadau
    • Rwy'n dod o hyd i erthyglau sy'n anghyflawn neu'n cynnwys tuedd
    • Rwy'n hoffi cyfrannu at bynciau rwy'n arbenigo ynddynt
    • Rwyf eisiau arddangos fy ngwybodaeth gyda'r cyhoedd neu'r gymuned ehangach
    • Rwyf eisiau poblogeiddio pynciau sy'n bwysig i mi
    • Rwy'n hoffi egwyddor Wicipedia o fod yn agored a chydweithio
    • Credaf y dylai gwybodaeth fod ar gael yn rhad ac am ddim i bawb
    • Rwyf eisiau creu enw i'm hun yn y gymuned Wicipedia
    • Hoffaf y syniad o wirfoddoli er mwyn rhannu gwybodaeth
    • Mae'n hwyl
  • Q6. Isod ceir rhestr o offer sydd ar gael i olygwyr. Ar gyfer pob un, nodwch a yw'n gwneud gwahaniaeth tra'n golygu Wicipedia os gwelwch yn dda.
    • Nid wyf yn ymwybodol o'r nodwedd hon
    • Mae'n gwneud Wicipedia'n haws i'w olygu
    • Nid yw'n gwneud unrhyw wahaniaeth i'm profiad golygu
    • Mae'n gwneud Wicipedia'n anoddach i'w olygu
      • Tudalennau cymorth
      • Tudalennau cynnwys a pholisi
      • Cystrawen Wici neu iaith debyg i HTML
      • Rhyngwyneb golygu
      • Offer cymorth awtomeiddiedig fel Twinkle, Huggle, AWB, ac ati.
      • Fforymau a thrafodaethau cymunedol
      • Botiaid
      • Sgriptiau-defnyddwyr & theclynnau
  • Q7a. Wrth feddwl am Y LLYNEDD (2010), pa mor weithgar oeddech chi ar Wicipedia o'i gymharu â'r flwyddyn cynt (2009)?
    • Roeddwn yn llai gweithgar ar Wicipedia yn 2010 o'i gymharu â 2009
    • Nid oedd gwahaniaeth yn fy lefel o weithgarwch
    • Roeddwn yn fwy gweithgar ar Wicipedia yn 2010 o'i gymharu â 2009
  • Q7b. Pam fuoch chi'n llai gweithgar ar Wicipedia? Dewiswch bob rheswm sy'n berthnasol os gwelwch yn dda.
    • Nid oes amser gennyf
    • Treuliaf fwy o amser ar weithgareddau eraill arlein
    • Treuliaf fwy o amser ar weithgareddau eraill nac ydynt ar y cyfrifiadur
    • Mae'n wastraff amser oherwydd bydd fy ngolygiadau'n cael eu gwrthdroi
    • Ni chredaf fod gennyf ddigon o arbenigedd i gyfrannu
    • Mae pobl eraill yn ei wneud, felly nid oes angen i mi ei wneud
    • Nid wyf eisiau golygu gwaith golygwyr eraill
    • Rwyf yn hapus i ddarllen, ac nid oes angen i mi gyfrannu
    • Dewisaf beidio treulio fy amser yn golygu
    • Nid wyf yn golygu oherwydd anghydfodau gyda golygwyr eraill
    • Mae'r rheolau a'r canllawiau golygu wedi mynd yn rhy gymhleth
    • Arall, nodwch os gwelwch yn dda ­­­­­­­­______
  • Q7c. Pe byddech yn mynd yn llai gweithgar ar Wicipedia yn ystod y CHWECH MIS NESAF, beth ydych chi'n tybio fydd y prif reswm. Dewiswch UN os gwelwch yn dda.
    • Rwy'n credu y bydd gennyf lai o amser
    • Disgwyliaf dreulio mwy o amser ar weithgareddau eraill arlein
    • Disgwyliaf dreulio mwy o amser ar weithgareddau eraill nac ydynt y cyfrifiadur
    • Mae'n wastraff amser oherwydd bydd fy ngolygiadau'n cael eu gwrthdroi
    • Ni chredaf fod gennyf ddigon o arbenigedd i gyfrannu
    • Mae pobl eraill yn ei wneud, felly nid wyf i eisiau ei wneud
    • Nid wyf eisiau golygu gwaith golygwyr eraill
    • Rwyf yn hapus yn darllen, ac nid wyf eisiau cyfrannu
    • Nid wyf eisiau treulio fy amser yn golygu
    • Nid wyf eisiau golygu oherwydd anghydfodau gyda golygwyr eraill
    • Mae'r rheolau a'r canllawiau'n mynd yn rhy gymhleth
    • Arall, nodwch os gwelwch yn dda_____

Adran II: Technoleg a Rhwydweithio edit

Mae'r cwestiynau nesaf yn ymdrin â'ch defnydd chi o wahanol fathau o ddyfeisiadau technolegol a gwefannau'r rhyngrwyd.

  • Q8a. Isod ceir rhestr o ddyfeisiadau electroneg mae pobl yn berchen arnynt. Pa rai o'r canlynol sydd gyda chi?
    • Cyfrifiadur bwrdd gwaith
    • Cluniadur neu gwelyfr
    • Dyfais tabled megis iPad
    • Ffôn symudol neu gellog
    • Chwaraeydd MP3 fel iPod
    • Dim un o'r uchod
  • Q8b. A oes gennych chi ffôn clyfar megis iPhone, Android, Blackberry?
    • Oes
    • Nac oes
  • Q8c. Isod ceir rhestr o ddyfeisiau electroneg. Ydych chi'n defnyddio'r dyfeisiau hyn i OLYGU Wicipedia? Dewiswch bob un sy'n berthnasol os gwelwch yn dda.
    • Cyfrifiadur bwrdd gwaith
    • Cluniadur neu gwelyfr
    • Dyfais tabled megis iPad
    • Ffôn symudol neu gellog
    • Chwaraeydd MP3 megis iPod
  • Q8d. Isod ceir rhestr o ddyfeisiau electroneg. Pa rai ydych chi'n defnyddio i DDARLLEN Wicipedia? Dewiswch bob un sy'n berthnasol os gwelwch yn dda.
    • Cyfrifiadur bwrdd gwaith
    • Cluniadur neu gwelyfr
    • Dyfais tabled megis iPad
    • Ffôn symudol neu gellog
    • Chwaraeydd MP3 megis iPod
  • Q9. Isod ceir rhestr o weithgareddau technolegol mae rhai pobl yn gwneud yn rheolaidd. Ar gyfer pob un ohonynt, nodwch pa mor aml, os o gwbl, y byddwch yn ei wneud mewn DIWRNOD cyffredin.
    • Mwy nag 8 awr
    • 7-8 awr
    • 5-6 awr
    • 3-4 awr
    • 1-2 awr
    • Llai nag awr
    • Nid wyf yn gwneud y weithgaredd arlein hon
      • Cadw mewn cysylltiad â ffrindiau a theulu ar wefannau rhwydweithio cymdeithasol fel Facebook
      • Anfon a derbyn ebyst
      • Defnyddio gwasanaethau negeseua syth megis MSN messenger a GTalk
      • Chwarae gemau aml-chwaraewr arlein megis World of Warcraft
      • Siopa arlein
      • Chwarae gemau arlein ar wefannau rhwydweithio cymdeithasol fel Farmville a CityVille
      • Lawrlwytho cerddoriaeth o wefannau fel iTunes
      • Gwylio fideos ar wefannau fel YouTube
      • Defnyddio technoleg ymwybodol o leoliad fel FourSquare a GoWalla
      • Blogio neu ddarllen blogiau
      • Defnyddio Twitter neu wefannau meicro-flogio tebyg eraill
      • Darllen Wicipedia
      • Cyfrannu at Wicipedia
      • Cyfrannu at feddalwedd ffynhonnell agored
  • Q10. Isod ceir rhestr debyg, byrach o weithgareddau mae pobl yn gwneud arlein. Nodwch pa mor bwysig yw pob un ohonynt yn eich bywyd dyddiol CHI, os gwelwch yn dda.
    • Pwysig tu hwnt
    • Pwysig iawn
    • Eithaf pwysig
    • Ddim yn bwysig iawn
    • Ddim yn bwysig o gwbl
      • Ebost
      • Gemau arlein
      • Trydar ar wefannau fel Twitter
      • Rhwydweithio cymdeithasol ar wefannau fel Facebook.com
      • Cyfrannu at Wicipedia
  • Q11. Mae nifer o bobl yn defnyddio cyfryngau cymdeithasol arlein y dyddiau hyn. Ydych chi:
    • Ydw
    • Nac ydw, ond rwyf yn ymwybodol o'r weithgaredd hon
    • Nac ydw, nid wyf yn gwybod am y weithgaredd hon
      • Yn meddu ar flog personol
      • Yn trydar gan ddefnyddio Twitter neu wefannau meicro-flogio tebyg
      • Yn rhyngweithio gyda defnyddwyr Twitter eraill trwy ddefnyddio negeseuon uniongyrchol, ymatebion ac ail-drydaru.
      • Yn postio sylwadau neu luniau'n rheolaidd i flog
      • Yn postio lluniau personol neu luniau o'ch teulu arlein er mwyn i bobl eraill fedru eu gweld
      • Yn postio fideos personol neu fideos o'ch teulu arlein er mwyn i bobl eraill fedru eu gweld
      • Yn creu cyfryngau megis darllediadau sain neu fideo, ac yna'n eu podledaenu neu'n eu gosod arlein ar wefan fel YouTube.com er mwyn i bawb fedru eu gweld
      • Yn postio diweddariadau statws ar wefannau rhwydweithio cymdeithasol fel Facebook
      • Yn gwneud sylwadau ar ddiweddariadau statws ffrindiau, ffotograffau ac ati ar wefannau fel Facebook
      • Yn rhannu dolenni arlein ar wefannau fel Twitter a Facebook.
      • Yn “Hoffi” cynnwys ar WEFANNAU RHWYDWEITHIO CYMDEITHASOL Facebook
      • Yn “Hoffi” cynnwys ar FLOGIAU, PAPURAU NEWYDD, ac ati.
      • Yn ysgrifennu adolygiadau am fwytai a chynhyrchion ar wefannau fel Yelp ac Amazon.
      • Yn rhannu gwybodaeth am eich lleoliad gyda ffrindiau ar wefannau fel FourSquare, Twitter, ac ati.
      • Yn ateb, postio neu'n rhoi sgôr i gwestiynau ar gymunedau arlein megis Quora a Fluther
  • Q12. Isod ceir rhestr o offer sydd ar gael ar rai ddyfeisiadau symudol, megis ffonau symudol a chwaraewyr MP3. Nodwch yr offer rydych chi'n DEFNYDDIO ar unrhyw un o'ch dyfeisiadau symudol.
    • Ydw, rwyf yn defnyddio hwn
    • Nac ydw, nid wyf yn defnyddio hwn
      • Teclyn/app sy'n eich galluogi i gael mynediad i'ch proffil rhwydweithio cymdeithasol
      • Teclyn/app sy'n eich galluogi i flogio
      • Teclyn/app sy'n eich galluogi i gael mynediad i Twitter
      • Teclyn/app sy'n eich galluogi i chwilio am wybodaeth
      • Teclyn/app sy'n eich galluogi i rannu/gweld ffotograffau
      • Teclyn/app sy'n eich galluogi i rannu/gwylio fideos
      • Teclyn/app sy'n eich galluogi i ganfod gwybodaeth sy'n berthnasol i'ch lleoliad
      • Teclyn/app sy'n eich galluogi i ddarllen Wicipedia
      • Teclyn/app sy'n eich galluogi i chwarae gemau
      • Teclyn/app sy'n eich galluogi i “fewngofnodi” mewn lleoliadau gwahanol
  • Q13a. Pe bai Wicipedia yn lansio teclyn fel RHAN O safle symudol Wicipedia, pa mor debygol fyddech chi o ddefnyddio'r nodweddion canlynol i olygu Wicipedia?
    • Tebygol tu hwnt
    • Tebygol iawn
    • Eithaf tebygol
    • Anhebygol
    • Anhebygol iawn
      • Nodwedd sy'n eich galluogi i uwchlwytho lluniau o ddyfais symudol i Gomin Wicifryngau
      • Nodwedd sy'n eich galluogi i roi sgôr i erthyglau Wicipedia ar raddfa
      • Nodwedd sy'n eich galluogi i greu erthyglau newydd
      • Nodwedd sy'n galluogi golygwyr i olygu fesul paragraff neu fesul brawddeg
      • Nodwedd sy'n eich galluogi i gadw erthyglau i'w darllen neu eu golygu all-lein
      • Nodwedd sy'n eich galluogi i wirio am fandaliaeth ar eich ffôn
  • Q14a. Pe byddech yn gorfod dewis, pa un o'r canlynol fyddech chi'n dewis?
    • Credaf fod golygu Wicipedia yn fwy gwerth chweil na gweithgareddau arlein eraill fel trydar, rhwydweithio cymdeithasol, ac ati.
    • Credaf fod cyfrannu ar Facebook, Twitter neu safleoedd tebyg yn fwy gwerth chweil na golygu Wicipedia.
  • Q14b. Pe byddech yn gorfod dewis, pa un o'r canlynol fyddai'n well gennych wneud?
    • Treulio fy amser yn golygu Wicipedia er mwyn gallu cyfrannu at wybodaeth y byd.
    • Treulio fy amser yn blogio er mwyn i mi dderbyn cydnabyddiaeth am fy ysgrifennu.

Adran III: Cymuned Wicipedia edit

Mae'r cwestiynau canlynol yn ymwneud â'ch rhyngweithio gyda golygwyr eraill ar Wicipedia a'ch profiadau chi fel aelod o gymuned Wicipedia.

  • Q15. Yn ystod y mis diwethaf, sawl golygydd ydych chi wedi rhyngweithio â nhw i gyd? (arlein, ar y ffôn, wyneb-yn-wyneb).
  • Q16. Isod ceir rhestr o adnoddau y gallwch eu defnyddio er mwyn cyfathrebu â golygwyr eraill. Faint o'r adnoddau, os o gwbl, ydych chi wedi eu defnyddio i gyfathrebu â golygwyr eraill yn ystod y MIS DIWETHAF? (Dewiswch bob un sy'n berthnasol os gwelwch yn dda.)
    • Y Caffi
    • Trafodaethau tudalen defnyddiwr
    • Foundation-l a rhestrau postio tebyg
    • Blog Sefydliad Wikimedia
    • Blog Planet Wikimedia
    • IRC
    • Gwasanaethau Negeseua Syth fel GTalk a Yahoo Messenger
    • Ebost
    • Gwefannau rhwydweithio cymdeithasol fel Facebook
    • Gwefannau meicro-flogio fel Twitter
    • Dim un o'r uchod
  • Q17. Mae diddordeb gennym yn sut y byddech chi'n disgrifio eich cyd-olygwyr. Isod mae rhestr o eiriau i ddisgrifio golygwyr yng nghymuned Wicipedia. Dewiswch y DDAU PRIF AIR sy'n disgrifio golygwyr Wicipedia. Dewiswch ddau os gwelwch yn dda.
    • Cymwynasgar
    • Cyfeillgar
    • Cydweithredol
    • Anghwrtais
    • Anghyfeillgar
    • Deallus
    • Twp
    • Trahaus
  • Q18a. Isod ceir rhestr o ryngweithiadau/profiadau y gallai golygwyr fod wedi cael gyda golgwyr eraill o fewn cymuned Wicipedia. Dywedwch wrthom a ydych wedi cael y rhyngweithiadau/profiadau hyn os gwelwch yn dda.
    • Ydw
    • Nacydw
      • Golygydd arall yn ychwanegu cynnwys/lluniau i erthygl rydych yn gweithio arni
      • Gwybodaeth anghywir yn cael ei ychwanegu at erthygl a ddechreuwyd gennych chi
      • Derbyn bathodyn/barnstar oddi wrth golygydd arall
      • Erthygl o'ch eiddo chi yn cael ei ddewis fel erthygl ddethol
      • Bod golygwyr eraill wedi cywiro camgymeriadau gramadegol mewn erthygl(au) a ddechreuwyd gennych
      • Bod golygwyr eraill wedi ychwanegu cynnwys i erthygl(au) a ddechreuwyd gennych
      • Bod eich llun(iau) yn cael eu defnyddio mewn erthyglau
      • Bod eich cynnwys yn cael ei ail-ddefnyddio
      • Bod eraill wedi eich canmol am eich golygiadau/erthyglau
      • Erthygl o'ch eiddo chi yn cyrraedd y dudalen flaen
  • Q18b. Dyma restr ychwanegol o ryngweithiadau/profiadau y gallai golygwyr fod wedi profi o flaen cymuned Wicipedia. Ar gyfer pob un, nodwch a ydych chi wedi cael y rhyngweithiad/profiad hyn os gwelwch yn dda.
    • Ydw
    • Nacydw
      • Bod eich golygiadau wedi cael eu gwrthdroi heb unrhyw esboniad
      • Bod eich golygiadau wedi cael eu gwrthdroi, ond gydag esboniad
      • Bod erthygl roeddech chi'n gweithio arni wedi cael ei dileu
      • Wedi cael eich bychanu gan olygwyr mwy profiadol
      • Anghydfod(au) gyda golygwyr ar eu tudalennau sgwrs neu rhywle arall
      • Golygwyr eraill yn gwthio eu safbwynt
      • Bod gwybodaeth anghywir neu ymosodol yn cael ei ychwanegu at erthygl yr oeddech chi'n gweithio arni.
  • Q19. Isod ceir rhestr fyrach o ryngweithiadau y gallant ddigwydd rhwng golygyddion yng nghymuned Wicipedia. Ar gyfer pob un, nodwch i ba raddau mae'n effeithio ar eich profiad cyffredinol o olygu Wicipedia.
    • Mae hyn yn fy ngwneud yn llai tebygol i barhau i gyfrannu at Wicipedia
    • Nid yw hyn yn effeithio ar ba mor debygol ydw i o olygu Wicipedia
    • Mae hyn yn fy ngwneud yn fwy tebygol i barhau i olygu Wicipedia
  • Q20. Pe byddech yn gorfod dewis, gyda pha un o'r rhain fyddech chi'n cytuno:
    • Mae'r adborth oddi wrth olygwyr eraill ar ffurf gwrthdroadau, trafodaethau ac ati wedi fy ngwneud yn well golygydd.
    • Mae'r adborth oddi wrth olygwyr eraill ar ffurf gwrthdroadau, trafodaethau ac ati wedi bod yn brofiad annymunol i mi.
  • Q21. Yn eich barn chi, beth yw'r ffordd orau i feithrin enw da yng nghymuned Wicipedia? Gosodwch y dewisiadau canlynol yn nhrefn pwysigrwydd (o'r mwyaf pwysig i'r lleiaf pwysig) os gwelwch yn dda.
    • Ysgrifennu erthyglau newydd
    • Golygu neu drwsio erthyglau sy'n bodoli eisoes
    • Gwneud sylwadau ar dudalennau sgwrs
    • Cynorthwyo gyda thasgau gweinyddol megis dileu, blocio ac ati
    • Darparu cymorth i ddefnyddwyr eraill megis cyngor ar restrau postio neu gymorth technegol
    • Cynorthwyo eraill i ddatrys anghydfodau, trwy gyflafareddu neu gymodi ac ati
  • Q22. Wrth gymharu eich hun â'r golygwyr eraill yn yr iaith rydych yn ei golygu gan amlaf (h.y. eich Wicipedia cartref), sut ydych chi'n credu eich bod yn wahanol iddynt? (Dewiswch bob un sy'n berthnasol os gwelwch yn dda)
    • Rwyf yn fenyw, tra bod y mwyafrif o olygwyr yn wrywod
    • Rwyf yn byw mewn gwlad wahanol i'r mwyafrif o olygwyr sy'n golygu fy Wicipedia cartref
    • Mae fy ethnigrwydd yn wahanol i'r mwyafrif o olygwyr sy'n golygu fy Wicipedia cartref
    • Mae fy nghyfeiriadedd rhywiol yn wahanol i'r mwyafrif o olygwyr sy'n golygu fy Wicipedia cartref
    • Rwyf yn ifancach na'r mwyafrif o olygwyr yn fy Wicipedia cartref
    • Rwyf yn hŷn na'r mwyafrif o olygwyr yn fy Wicipedia cartref
    • Mae fy nghenedligrwydd yn wahanol i'r mwyafrif o olygwyr sy'n golygu yn fy Wicipedia cartref
    • Dim un o'r uchod
  • Q23. Ydych chi ERIOED wedi cael eich aflonyddu gan olygwyr eraill?
    • Ydw, rydw i wedi cael fy aflonyddu YN Wicipedia (h.y. tudalen defnyddiwr, tudalennau sgwrs ac ati)
    • Ydw, rydw i wedi cael fy aflonyddu TU ALLAN i Wicipedia (h.y. galwadau ffôn, Facebook ac ati)
    • Na, nid wyf erioed wedi cael fy aflonyddu gan olygwyr eraill.
  • Q24a. Yn ystod y CHWECH MIS diwethaf, ydych chi'n gallu meddwl am ddigwyddiad pan cafodd eich golygiad ei wrthdroi neu ddileu am unrhyw un o'r rhesymau canlynol, yn eich barn chi?
    • Ydw
    • Nacydw
      • Eich rhyw
      • Eich cenedligrwydd
      • Eich ethnigedd
      • Eich cyfeiriadedd rhywiol
      • Eich oedran
  • Q24b. Yn ystod y CHWECH MIS diwethaf, ydych chi'n gallu meddwl am ddigwyddiad pan golloch chi anghydfod golygyddol oherwydd un o'r rhesymau canlynol, yn eich barn chi?
    • Ydw
    • Nac ydw
      • Eich rhyw
      • Eich cenedligrwydd
      • Eich ethnigedd
      • Eich cyfeiriadedd rhywiol
      • Eich oedran
  • Q24c. Yn ystod y CHWECH MIS diwethaf, ydych chi'n gallu meddwl am ddigwyddiad pan gawsoch eich stereoteipio oherwydd un o'r rhesymau canlynol, yn eich barn chi?
    • Ydw
    • Nac ydw
      • Eich rhyw
      • Eich cenedligrwydd
      • Eich ethnigedd
      • Eich cyfeiriadedd rhywiol
      • Eich oedran
  • Q24d. Yn ystod y CHWECH MIS diwethaf, ydych chi'n gallu meddwl am ddigwyddiad pan oeddech yn teimlo fod golygwyr eraill wedi tanseilio eich cyfraniad i Wicipedia gan gynnwys eich golygiadau, cyfraniadau at dudalennau sgwrs, listservs ac ati oherwydd un o'r rhesymau canlynol?
    • Ydw
    • Nac ydw
      • Eich rhyw
      • Eich cenedligrwydd
      • Eich ethnigedd
      • Eich cyfeiriadedd rhywiol
      • Eich oedran
  • Q24e. Yn ystod y CHWECH MIS diwethaf, ydych chi'n gallu meddwl am ddigwyddiad pan oeddech chi'n credu fod golygwyr eraill wedi edrych i lawr eu trwynau arnoch oherwydd un o'r rhesymau canlynol?
    • Ydw
    • Nac ydw
      • Eich rhyw
      • Eich cenedligrwydd
      • Eich ethnigedd
      • Eich cyfeiriadedd rhywiol
      • Eich oedran
  • Q24f. Yn ystod y CHWECH MIS diwethaf, ydych chi'n gallu meddwl am ddigwyddiad pan oeddech yn teimlo fod golgwyr eraill yn anghroesawgar oherwydd un o'r rhesymau canlynol?
    • Ydw
    • Nac ydw
      • Eich rhyw
      • Eich cenedligrwydd
      • Eich ethnigedd
      • Eich cyfeiriadedd rhywiol
      • Eich oedran
  • Q25. Mae gennym ddiddordeb yn y rhyngweithiadau mae menywod yn cael o fewn cymuned Wicipedia. Isod ceir rhestr o brofiadau amhleserus y gallai rhai menywod fod wedi profi. Os ydych chi wedi cael profiad PERSONOL o'r profiadau annymunol isod, nodwch hynny os gwelwch yn dda. Dewiswch bob un sy'n berthnasol os gwelwch yn dda.
    • Rwyf wedi derbyn gormod o sylw
    • Cefais fy stelcian arlein
    • Ceisiodd rhywun gysylltu â mi yn ddiangen tu allan i Wicipedia
    • Ceisiodd rhywun gwrdd â mi wyneb-yn-wyneb
    • Defnyddiodd rhywun ddelwedd ohonof heb fy nghaniatad
    • Gadawodd rhywun negeseuon neu sylwadau amhriodol ar fy nhudalen defnyddiwr neu'r tudalennau y cyfranais atynt
    • Ceisiodd rhywun fflyrtio â mi
    • Eraill ________
    • Dim un o'r uchod
  • Q26. Mae gennym ddiddordeb mewn darganfod pa fath o wybodaeth bersonol rydych wedi ei wneud yn agored i bawb fedru gweld ar Wicipedia. Ydych chi wedi gwneud y wybodaeth bersonol ganlynol ar gael yn eich proffil ar Wicipedia. Dewiswch bob un sy'n berthnasol.
    • Trwy'r Enw Defnyddiwr a Ddewisais
    • Ar fy Nhudalen Defnyddiwr
      • Rhyw
      • Cenedligrwydd
      • Ethnigrwydd
      • Cyfeiriadedd rhywiol
      • Oedran
  • Q27. A ydych chi'n teimlo fod parthau'r defnyddwyr ar Wicipedia (tudalennau defnyddwyr, tudalennau sgwrs ac ati) yn cael eu rhywioli mewn modd amhriodol (h.y. sgyrsiau rhywiol, innuendos, delweddau ac ati)?
    • Ydw
    • Nac ydw

Adran IV: Darllenwyr Wicipedia a Chyfraniadau Ariannol edit

Mae'r cwestiynau nesaf ynglyn â'ch arferion darllen ar Wicipedia, a'ch cyfraniad i Sefydliad Wikimedia sy'n rhedeg Wikipedia.

  • D13. Beth yw eich prif reswm dros ddarllen Wicipedia? Dewiswch bob un sy'n berthnasol os gwelwch yn dda.
    • I ganfod gwybodaeth
    • Fel ffynhonnell y gallaf gyfeirio ato ar gyfer gwaith ysgol neu brifysgol
    • Fel ffynhonnell na fyddaf yn cyfeirio ato ar gyfer gwaith ysgol neu brifysgol
    • Ar gyfer gwaith
  • D14. A wyddoch chi p'un ai mudiad sy'n gwneud elw ynteu mudiad di-elw yw Sefydliad Wikimedia, sy'n cynnal Wicipedia? Dewiswch un os gwelwch yn dda.
    • Mudiad di-elw ydyw
    • Mudiad sy'n gwneud elw ydyw
  • D15a. Ydych chi erioed wedi cyfrannu'n ariannol i Sefydliad Wikimedia sy'n rhedeg Wicipedia?
    • Do
    • Naddo
  • D15b. Sawl gwaith ydych chi wedi cyfrannu'n ariannol i Sefydliad Wikimedia sy'n cynnal Wicipedia?
    • Unwaith
    • 2-3 gwaith
    • 4-5 gwaith
    • Mwy na 5 gwaith
  • D15b2. A yw eich cyfraniad i Sefydliad Wikimedia yn medru cael ei ddidynnu o'ch treth?
    • Ydy
    • Nac ydy
    • Wn i ddim
  • D15b3 Pe na bod modd didynnu o'ch treth yn sgil eich cyfraniad i Sefydliad Wikimedia, a fyddech chi wedi rhoi serch hynny?
    • Byddwn
    • Na fyddwn
    • Wn i ddim/ddim yn siwr.
  • D15c. Pam nad ydych chi erioed wedi cyfrannu at Sefydliad Wikimedia sy'n rhedeg Wicipedia? Dewiswch bob un sy'n berthnasol os gwelwch yn dda.
    • Doeddwn i ddim yn gwybod y cefnogir Wicipedia gan fudiad di-elw
    • Dw i byth yn cyfrannu at elusennau
    • Fedra i ddim fforddio gwneud cyfraniad
    • Rwyn cyfrannu fy amser yn hytrach na fy arian
    • Nid yw cyfraniadau i'r Sefydliad Wikimedia yn dreth-ddidynadwy lle rwyn byw
    • Ni ofynnwyd i mi gyfrannu neu wyddwn i ddim sut i gyfrannu i Sefydliad Wikimedia
    • Rwyn anghytuno ag arferion a pholisïau Wicipedia
    • Credaf na fydd fy nghyfraniad yn cael ei ddefnyddio'n ddoeth
    • Ymddengys fod digon o bobl yn cyfrannu er mwyn cadw'r prosiectau i fynd
  • D16. Ydych chi yn gofyn am wybodaeth neu'n derbyn gwybodaeth oddi wrth Sefydliad Wikimedia?
    • Ydw
    • Nac ydw
  • D16a. Ydych chi'n hapus gyda safon y wybodaeth rydych yn derbyn oddi wrth Sefydliad Wikimedia?
    • Ydw
    • Nac ydw
  • D17. Ydych chi erioed wedi pleidleisio yn etholiadau Bwrdd Ymddiriedolwyr Sefydliad Wikimedia?
    • Ydw
    • Nac ydw
  • D17a. Pam nad ydych erioed wedi pleidleisio yn etholiadau Bwrdd Ymddiriedolwyr Sefydliad Wikimedia? Dewiswch bob un sy'n berthnasol os gwelwch yn dda.
    • Collais y dyddiad cau
    • Teimlwn nad oedd gennyf ddigon o wybodaeth am Sefydliad Wikimedia i wneud penderfyniad da
    • Teimlwn nad oedd gennyf ddigon o wybodaeth am yr ymgeiswyr i wneud penderfyniad da
    • Roeddwn i eisiau pleidleisio ond dw i ddim yn gymwys
    • Nid oedd diddordeb gennyf
    • Nid wyf erioed wedi clywed am yr etholiadau hyn
    • Arall ______
  • D18a. Nawr eich bod yn gwybod am yr etholiadau, a fyddai diddordeb gennych mewn pleidleisio yn etholiadau bwrdd ymddiriedolwyr Wikimedia yn y dyfodol?
    • Byddai
    • Na fyddai
  • D19. Ydych chi erioed wedi ymgeisio neu wedi dymuno ymgeisio yn etholiadau bwrdd ymddiriedolwyr Sefydliad Wikimedia?
    • Ydw
    • Nac ydw
    • Na, doeddwn i ddim yn gymwys i bleidleisio yn yr etholiadau
  • D19a. Pam nad oes gennych ddiddordeb mewn sefyll yn etholiadau bwrdd ymddiriedolwyr Sefydliad Wikimedia?
    • Collais y dyddiad cau
    • Nid oes gennyf ddiddordeb mewn sefyll mewn etholiadau
    • Anghytunaf ag arferion a pholisïau Sefydliad Wikimedia
    • Ni chredaf y gallaf wneud gwahaniaeth hyd yn oed os câf fy ethol
    • Nid oes gennyf yr wybodaeth neu ni wn sut i sefyll yn yr etholiadau
    • Arall _____
  • D20a. Ar raddfa o 0-10 gyda 0 yn meddwl DDIM YN DDA O GWBL a 10 yn meddwl ARBENNIG O DDA, sut fyddech chi yn ystyried eich cyfraniad chi wrth gyfrannu at fudiad Wikimedia?
  • D20b. Ar raddfa o 0-10 gyda 0 yn meddwl DDIM YN DDA O GWBL a 10 yn meddwl ARBENNIG O DDA, sut fyddech chi'n ystyried perfformiad cyffredinol gwirfoddolwyr Wikimedia, wrth gyfrannu at fudiad Wikimedia?
  • D20c. Ar raddfa o 0-10 gyda 0 yn meddwl DDIM YN DDA O GWBL a 10 yn meddwl ARBENNIG O DDA, sut fyddech chi'n ystyried perfformiad Sefydliad Wikimedia, wrth gyfrannu at fudiad Wikimedia?
  • D20d. Ar raddfa o 0-10 gyda 0 yn meddwl DDIM YN DDA O GWBL a 10 yn meddwl ARBENNIG O DDA, sut fyddech chi'n ystyried perfformiad cymdeithasau rhanbarthol Wikimedia, wrth gyfrannu at fudiad Wikimedia?
    • Wn i ddim
  • D21. Mae gennym ddiddordeb yn eich barn ar yr hyn y dylai Sefydliad Wikimedia wario arian arno. Pe byddech yn cyfrannu 100 doler i Sefydliad Wikimedia, sut fyddech chi'n hoffi gweld y sefydliad yn dyrannu'r arian hwnnw? (Sicrhewch fod yr holl ymatebion yn cyrraedd $100 os gwelwch yn dda)
    • Gweithgareddau technegol (mwy o staff gweithredu, gweinyddion storio newydd, metrigau perfformio, amser mynd (uptime))
    • Datblygu nodweddion technegol wedi'u hanelu at gefnogi golygwyr profiadol
    • Datblygu nodweddion technegol wedi'u hanelu at gefnogi golygwyr newydd
    • Gwaith cymunedol gyda'r nod o gefnogi diwylliant golygu iachus
    • Gwaith cymunedol wedi'i anelu at ddenu/cefnogi golygwyr newydd yn fyd-eang
    • Gwaith cymunedol wedi'i anelu at ddenu/cefnogi golygwyr newydd yn y De byd-eang
    • Darparu grantiau i gymdeithasau rhanbarthol, unigolion a mudiadau tebyg ar gyfer prosiectau sy'n flaenoriaethau
    • Cefnogaeth ar gyfer cymdeithasau rhanbarthol (e.e., cyfathrebu, monitro cydymffurfiad gyda chytundebau, codi arian, datblygiad sefydliadol)
    • Arall, nodwch os gwelwch yn dda_____
  • D22a. Byddwn yn cynnal arolygon tebyg i hwn yn y dyfodol, er mwyn dilyn hynt cymuned Wicipedia. A fyddech chi'n barod i gymryd rhan mewn arolygon yn y dyfodol?
    • Byddwn
    • Na fyddwn
  • D22b. A fyddech gystal â rhoi eich cyfeiriad ebost i ni os gwelwch yn dda? Bydd y cyfeiriad ebost yn cael ei ddefnyddio gan dîm yr arolwg i gysylltu â chi ynglŷn â chymryd rhan yn arolygon y dyfodol, ac ni fydd yn cael ei ddosbarthu y tu allan i dîm yr arolwg.

Diweddglo edit

Diolch am fod yn rhan o'r arolwg! Bydd y data o'r arolwg yn cael ei amddifadu o'u gysylltiad ag unigolion. Yna bydd y canlyniadau'n cael eu cyhoeddi yn y parth cyhoeddus.