Arolwg ynglyn â sut y dylid gwario arian/Cwestiynau

This page is a translated version of the page Survey of how money should be spent/Questions and the translation is 100% complete.

Diolch am gwblhau Arolwg Blaenoriaethau Dosbarthu Arian 2012. Gobeithia'r Sefydliad y bydd yr arolwg hwn yn amlygu pa adnoddau y mae Wicifryngwyr eisiau ac angen (efallai y bydd angen ariannu rhai o'r rhain), a beth yw'r blaenoriaethau. Ni fydd holl raglenni'r Sefydliad fan hyn (yn benodol hepgorwyd gweithrediadau craidd) - dim ond adnoddau y bydd cyfrannwyr unigol neu sefydliadau sy'n gysylltiedig â Wicifryngau megis penodau yn gofyn amdanynt.

Y nod yn y fan hon yw adnabod beth sydd o ddiddordeb i CHI (neu grŵpiau, megis penodau neu glybiau), gan restru'r opsiynau yn ôl dewis. Nid ydym wedi cynnwys pethau fel "cadw'r gweinyddion i weithio" yn y rhestr hon, oherwydd cyfrifoldeb cyfranwyr unigol neu sefydliadau gwirfoddol ydynt. Bwriad yr arolwg hwn yw dweud wrthym pa flaenoriaethau ariannu mae cyfranwyr yn cytuno neu'n anghytuno â hwy.

I'r mwyafrif o bobl, bydd yr arolwg hwn yn cymryd llai na 15 munud i'w gwblhau. Bydd eich ymatebion unigol yn aros yn breifat a chyfrinachol, er gellir rhannu rhai canlyniadau yn gyfranredol. Ni fydd canlyniadau'r arolwg a gyhoeddir yn cynnwys unrhyw wybodaeth bersonol a fydd yn ganfyddadwy.

Wrth ateb y cwestiynau hyn, rydych yn cytuno y gallwn ni gofnodi eich ymatebion a'u rhannu yn y parth cyhoeddus. Bydd hyn yn ein galluogi i rannu'ch atebion gydag eraill ar gyfer dadansoddi agored, ymchwil ac astudiaeth. Nid yw'r arolwg hwn yn gofyn am eich enw, cyfeiriad, rhif ffn, neu ebost, ac ni fyddwn yn rhannu gwybodaeth bersonol ganfyddadwy ac eithrio yn unol â'r gyfraith. Mae'r ymrwymiad hyn yn cymryd yn ganiataol na fyddwch yn cynnwys gwybodaeth bersonol mewn ymateb i gwestiwn na sydd yn gofyn am wybodaeth o'r fath.

Mae Wicifryngau yn sefydliad fyd-eang. Trwy ateb y cwestiynau, rydych yn cytuno i'ch atebion gael eu trosglwyddo i'r Unol Daleithiau a mannau eraill fel bo angen er mwyn gwireddu nodau'r prosiect hwn.

Os ydych yn iau na 13 oed, peidiwch ymateb i'r arolwg hwn.

Ym mha iaith y byddwch chi'n golygu amlaf?
Ym mha brosiect fyddwch chi'n golygu amlaf?
  • Wicipedia
  • Wicinewyddion
  • Wiciffynhonnell
  • Wiciadur
  • Wicilyfrau
  • Wiciddyfynnu
  • Wiciversity
  • Arall
Ym mha wlad ydych chi'n byw?
Sut fyddech chi'n disgrifio y prif fath o waith rydych chi'n gwneud? (Dewiswch hyd at 3)
  • Creu cynnwys (e.e. ysgrifennu a diwygio erthyglau, tynnu lluniau, a.y.y.b.)
  • Ceidwad o'r cynnwys (e.e. trefnu a chategoreiddio cynnwys, lleoli adnoddau yn rhad ac am ddim a'u huwchlwytho i brosiectau a.y.y.b.)
  • Asesu cynnwys (e.e. patrolio tudalennau newydd, asesu safon delweddau/testun, a.y.y.b)
  • Gweinyddu'r prosiect (e.e. patrolio fandaliaeth, gweithredoedd gweinyddwr, gwirio defnyddiwr, swyddogaethol)
  • Cefnogaeth cyfranwyr / golygwyr (e.e. cyflafareddu, datrys anghydfodau, sianeli cymorth, a.y.y.b.)
  • Cefnogaeth darllenwyr (e.e. OTRS, a.y.y.b.)
  • Gweithredu cymunedol (e.e. rhaglenni addysgiadol, GLAM, a.y.y.b.)
  • Cefnogaeth symudiad fframweithiol (e.e. Penodau, gweithgorau oenodaum sianeli caniatad OTRS, a.y.y.b.)
  • Technegol (e.e. codio MediaWici, ysgrifennu botiau, a.y.y.b.)
  • Arall (disgrifiwch os gwelwch yn dda)
Please delete
  • Mynediad at weithiau cyfeiriol ffisegol (e.e. llyfrau)
  • Mynediad at weithiau cyfeiriol anffisgeol (e.e. cronfeydd data o erthyglau newyddiadurol)
  • Mynediad i offer ffisegol (e.e. camerau, sganwyr)
  • Mynediad i offer meddalwedd gwell (e.e. golygu delweddau, golygu sain)
  • Mynediad i ddatblygiad hyfforddiant a sgiliau (e.e. ysgrifennu, ffotograffiaeth, mapio)
  • Mynediad i fframwaith technegol (e.e. toolserver, Wikimedia Labs, allweddau ar gyfer defnyddio APIs masnachol)
  • Ad-daliadau (e.e. teithio lleol, tal mynediad, costau llungopio/adalw)
  • Cynrychiolaeth cyfreithiol ar gyfer unigolion neu grwpiau cymunedol
  • Cyngor cyfreithiol ar gyfer unigolion neu grwpiau cymunedol (e.e. hawlfraint, enllib)
  • Nwyddau neu wobrau i'w dosbarthu (e.e. crysau T, botymau)
  • Arian er mwyn teithio i Wicimania neu ddigwyddiadau eraill sy'n ymwneud a Wicifryngau
  • Arian er mwyn cynnal digwyddiad neu gystadleuaeth bychan, neu i gymryd rhan mewn digwyddiad mwy o faint (e.e. bwyd, cost ystafell neu fwth, posteri)
  • Arian i gynnal digwyddiad neu gystadleuaeth mawr (e.e. lleoliad, arwyddion, deunydd cyhoeddusrwydd, hurio offer)
  • Arian ar gyfer unigolion i neilltuo amser i fentrau cymunedol byr-dymor na ellir eu gwneud ar lefel wirfoddol (e.e. prosiect ymchwil, trefnu cystadleuaeth)
  • Hawl i ddefnyddio logos Wicipedia/Wicfryngau ar gyfer cydweithrediadau/mentrau/digwyddiadau
  • Arian i gynnal ymchwil gwreiddiol lle bo'n briodol (e.e. cyfweliadau Wicinewyddion, hanesion llafar a.y.y.b.)
  • Mynediad i faneri lleol neu fyd-eang (e.e. ar gyfer dibenion ymchwil neu ricriwtio)
A oes unrhyw adnoddau eraill, na sydd wedi eu rhestru yn y fan hon, yr hoffech chi neu wirfoddolwyr eraill eu gweld, er mwyn eich cynorthwyo i wneud eich gwaith? Rhestrwch hwy os gwelwch yn dda. (Os nad yw eich eitem yn Saesneg, ychwanegwch gyfieithad Google o'ch gweithiau yn Saesneg, os yn bosib os gwelwch yn dda).
Dychmygwch raddfa o 0 i 10m lle mae 0 yn meddwl "ni ddylid ei gynnig o gwbl" a 10 yn meddwl "cwbl hanfodol y caiff ei gynnig". Gan ddefnyddio'r raddfa honno, clustnodwch gwerth i bob un o'r adnoddau a restir yma os gwelwch yn dda, yn seiliedig ar eu pwysigrwydd i lwyddiant cyffredinol mudiad Wicifryngau. Gallwch ddefnyddio'r rhifau fwy nag unwaith.


Dyma'r un rhestr o adnoddau. Nodwch bob adnodd y teimlwch y byddwch chi eich hun eisiau defnyddio rhyw ddiwrnod os gwelwch yn dda.