Meetup/Cardiff/3/cy

Cymraeg · English

Wicigyfarfod Caerdydd Rhif 3 edit

Dydd Sadwrn 31 Mai 2014 — 17:30 ymlaen edit

Lleoliad: The Central Bar (Wetherspoons), 39 Plas Windsor CF10 3BW

Ceir WiFi yn y lleoliad #cdfwiki

Mae wicigyfarfod yn gyfle i ddefnyddwyr prosiectau Wikimedia gwrdd â'i gilydd a...

  • Sgwrsio am Wicipedia, Wikimedia, cynnwys agored neu unrhyw bwnc arall a aiff â'n pryd
  • Bwyta ac yfed (ond nid yw diodydd alcoholig na bwyd yn orfodol!)
The Central Bar

Digwyddiadau cymdeithasol anffurfiol ydy wicigyfarfodydd yn bennaf. Gallwch ddisgwyl cwrdd â Wicipedwyr brwd iawn, ond estynir gwahoddiad agored i unrhyw un â diddordeb mewn darganfod mwy am Wicipedia a'i chwaer-brosiectau (yn Gymraeg neu yn Saesneg) yn ogystal â'r prosiectau yn ymwneud â Wikimedia sy'n cael eu cynnal ar hyn o bryd yng Nghymru. Mae croeso i chi ddod a chael sgwrs am bopeth wicïaidd dros ddiod o'ch dewis.

Darperir WiFi yn y dafarn. Unwaith eto, dydy diodydd alcoholig ddim yn orfodol!

Dod o hyd i ni edit

Mae'r Central Bar yn dafarn yng nghanol y brifddinas, ger Heol y Frenhines ac yn agos at orsaf Heol y Frenhines a arosfannau bysiau Plas Dumfries a Ffordd Churchill. Byddwn ni ar fwrdd i'r dde ar ben y grisiau – cadwch eich llygaid allan am bobl â bathodynnau Wicipedia, gliniaduron a gwên bodlon, braf ar eu wynebau!

Yn dod i'r wicigyfarfod edit

Cofrestrwch isod os gwelwch yn dda os ydych yn bwriadu dod. Os hoffech gael eich atgoffa yn nes at yr amser, gadewch nodyn ar ôl eich llofnod.

  • Ham (sgwrs) 12:36, 5 Mai 2014 (UTC)
  • Llywelyn2000 (sgwrs) 17:01, 5 Mai 2014 (UTC)
  • Rhyswynne (sgwrs) 20:10, 5 Mai 2014 (UTC) - byddaf yno tua 7pm
  • Ychwanegwch eich enw yn fama
  • Ychwanegwch eich enw yn fama