Cynhadledd y Cwlwm Celtaidd, 2024
☘️ Croeso |
🗒️ Rhaglen |
✅ Cynnal |
⏯️ Piddle fideo |
Safiwch y dyddiad! Mae Cynhadledd y Cwlwm Celtaidd yn ei ôl
Ar ôl sawl blwyddyn o gynadleddau ar-lein, rydym yn falch iawn o gyhoeddi y bydd y Cwlwm Celtaidd yn digwydd eto yn y cnawd, yn Port Láirge (Dinas Waterford), Iwerddon. Dyddiadau'r gynhadledd fydd Mercher 25 i ddydd Gwener 27 Medi 2024. Y lleoliad yw Gwesty'r Tŵr, Port Láirge (Dinas Waterford) - sydd wedi'i leoli ar y Mall a gyferbyn Tŵr Reginald.
Bydd mwy o fanylion am y digwyddiad, y rhaglen, a sut i gymryd rhan yn cael eu ychwanegu i'r tudalennau hyn yn yr wythnosau nesaf.
Am y Gynhadledd
Nod Cynhadledd Ieithoedd Cwlwm Celtaidd Wicimedia yw dod â phobl ynghyd i rannu eu profiadau o rannu gwybodaeth mewn ieithoedd lleiafrifol dan fygythiad. Ein nod yw helpu pobl i ddysgu sut i lifo a chywain gwybodaeth ar draws rhwystrau ieithyddol a chefnogi eu cymunedau wici.
Mae Cynhadledd Ieithoedd y Cwlwm Celtaidd yn fan lle gall pobl sy'n gweithio ar dyfu a chynnal a chadw eu cymunedau (ar Wicipedia, ond hefyd ar brosiectau megis Wicidestun neu Wicidata) gyfarfod, dysgu oddi wrth ei gilydd, a chefnogi ei gilydd ar bynciau fel twf cymunedol, offer technegol, neu gydweithio â phartneriaid fel amgueddfeydd.
Tarddodd y syniad a'r weledigaeth gan Wicimedia UK, ynghyd â phartneriaid lleol a grwpiau Wicimedia. Mae Cynhadledd y Cwlwm Celtaidd bellach yn cynnig pum rhifyn blynyddol, gan gynnwys dau ddigwyddiad ar-lein. Mae'r gynhadledd fel arfer yn amlygu teulu o ieithoedd, a gall y cyfranogwyr ddysgu mwy am y cyd-destun diwylliannol yn ogystal â chyflwr prosiectau Wicimedia yn yr ieithoedd hyn.
Gweler hefyd gynadleddau'r gorffennol: 2017, 2018, 2019, 2020, Arctic Knot 2021, 2022.
Y tim sy'n trefnu
- Amy O'Riordan, Cymuned Wicimedia Iwerddon (OifigeachWMIE)
- Sophie Fitzpatrick, Cymuned Wicimedia Iwerddon (Cailínréalta)
- Daria Cybulska (WMUK)
- Richard Nevell (WMUK)
- Léa Lacroix, ymgynghorydd (Auregann)
Llinell amser
- Ceisiadau am Ysgoloriaethau ar agor tan 30 Mehefin
- Galwad am gynigion: ar agor tan 14 Gorffennaf
- Dechrau cofrestru: Mehefin
- Cyhoeddi'r rhaglen: canol Awst