Wikimedia Foundation elections/Board elections/2011/Committee/cy

Gorffennodd yr etholiad ar 12 Mehefin 2011. Ni fydd unrhyw bleidleisiau eraill yn cael eu derbyn.
Cyhoeddwyd canlyniadau'r etholiad ar 17 Mehefin 2011.
Ethol Bwrdd 2011
Trefniant

Mae Pwyllgor Ethol Bwrdd 2011 yn gwneud y trefniadau manwl ar gyfer yr etholiad yn ôl gofynion Bwrdd yr Ymddiriedolwyr, sydd yn goruchwylio'r gwaith hwnnw. Fe all y Pwyllgor gynnig argymhellion am drefn yr etholiadau i'r Bwrdd.

Aelodaeth

edit

Mae Bwrdd yr Ymddiriedolwyr yn penodi aelodau'r Pwyllgor i'r perwyl o drefnu etholiad Bwrdd Ymddiriedolwyr Wikimedia 2011. Rhaid i aelodau'r pwyllgor fod yn olygwyr ar un neu ragor o brosiectau Wikimedia, ni allant fod yn aelodau o Fwrdd yr Ymddiriedolwyr nac yn ymgeiswyr yn yr etholiad, ac ni allant bleidleisio yn yr etholiad.

Y pum aelod a ganlyn, sydd i gyd yn wirfoddolwyr, yw aelodau'r pwyllgor:

Enw Ieithoedd Trigfan (cylchfa amser)
Abbas Mahmoud sw, en-3 Nairobi, Kenya (UTC+3)
Jon Harald Søby nb, en-3, sv-3, de-2, da-2, es-1, eo-1, ro-1, sw-1 Dar es Salaam, Tanzania (UTC+3)
"Mardetanha" fa, az, en-3, tr-2, ar-1, mzn-1, glk-1, bqi-1, tk-1, crh-1 Zanjan, Iran (UTC+3:30)
"Matanya" he, en Israel (UTC+2)
Ryan Lomonaco en Grand Rapids, Michigan, USA (UTC-4)

Gwaith y Pwyllgor

edit

Mae'r Pwyllgor yn gyfrifol am drefnu a chynnal ymron pob agwedd o ethol y Bwrdd. Er enghraifft, y Pwyllgor sydd yn trefnu'r math o bleidleisio, meini prawf cael pleidleisio, a meini prawf cael ymgeisio. Y Pwyllgor sy'n drafftio ac yn trefnu holl dudalennau swyddogol yr etholiad ar Meta, yn cadarnhau bod yr ymgeiswyr a'r etholwyr yn ateb y meini prawf, yn archwilio'r pleidleisiau er mwyn sicrhau nad oes pleidleisiau dyblyg i gael neu broblemau eraill, ac yn y blaen.