Amodau a thelerau - Crynodeb

This page is a translated version of the page Terms of use-Summary and the translation is 89% complete.
Amodau a Thelerau
Wikimedia-logo.svg
Dyma grynodeb mewn iaith syml o Amodau a Thelerau defnyddio'n gwefan. To read the full terms, click here.
Gwadiad: Nid yw'r crynodeb hwn yn ran o'r Amodau a Thelerau ac nid yw'n ddogfen gyfreithiol. Yn hytrach, canllaw cyfleus yw, yn gymorth i ddeall yr amodau a thelerau cyflawn. Gallwch ei ystyried yn gyfieithiad hwylus o iaith gyfreithiol yr Amodau a Thelerau.

Mae ein pwrpas yn cynnwys:

  • Galluogi a Chydio Diddordeb pobl o bob cwr o'r byd i gasglu a datblygu deunydd addysgol; ac i'w gyhoeddi yn ôl termau trwydded rhydd neu i'w gyflwyno i'r parth cyhoeddus.
  • Lledaenu'r deunydd hyn yn effeithiol ac i bob cwr o'r byd, yn rhad ac am ddim.

Mae rhyddid i chi:

  • Ddarllen ac Argraffu ein herthyglau a'n deunydd arall yn ddi-dâl.
  • Rhannu ac Ailddefnyddio ein herthyglau a'n deunydd arall yn ôl termau trwyddedi rhydd ac agored.
  • Cyfrannu a Golygu ar ein gwahanol wefannau neu Brosiectau.

Yn ôl yr amodau canlynol:

  • Cyfrifoldeb — Chi sydd yn gyfrifol am eich golygiadau (gan mai gwesteia eich cynnwys yn unig yr ydym).
  • Cwrteisi — Eich bod yn cefnogi cwrteisi ymhlith y gymuned ac nad ydych yn poeni defnyddwyr eraill na'u haflonyddu.
  • Ymddwyn yn Gyfreithlon — Nad ydych yn torri cyfraith hawlfraint na chyfreithiau eraill.
  • Dim Niwed — Nad ydych yn niweidio ein isadeiledd technoleg.
  • Amodau a Thelerau a Pholisïau — Eich bod yn cadw at yr Amodau a Thelerau isod ac at y polisïau cymunedol perthnasol pan yn ymweld â'n gwefannau neu yn cymryd rhan yn ein cymunedau.

A chan ddeall:

  • Eich Bod yn Gosod Trwydded Rydd ar Eich Cyfraniadau — yn gyffredinol rhaid i chi drwyddedi eich cyfraniadau a'ch golygiadau i'n gwefannau neu ein Prosiectau â thrwydded rhydd ac agored (heblaw bod eich cyfraniad yn y parth cyhoeddus).
  • Nad yw'n Gyngor Proffesiynol — unig ddiben cynnwys yr erthyglau a'r prosiectau eraill yw rhoi gwybodaeth; nid cyngor proffesiynol ydynt.