Research:Canlyniadau arolwg o ddarllenwyr Wicipedia Cymraeg

Created
Ch 2017
Collaborators
Edward Galvez, Robin Owain
Duration:  2017-23 Ch – 2017-20 Ma
This page documents a completed research project.

Y nifer o ymatebion a gafwyd i'r arolwg, dros amser (Chwefror-Mawrth)

5
10
15
20
23 Ch
24 Ch
25 Ch
26 Ch
27 Ch
28 Ch
1 Ma
2 Ma
3 Ma
4 Ma
5 Ma
6 Ma
7 Ma
8 Ma
9 Ma
10 Ma
11 Ma
12 Ma
13 Ma
14 Ma
15 Ma
16 Ma
17 Ma
18 Ma
19 Ma
20 Ma
21 Ma

Canlyniadau

edit

Q1 Gyda pha rywedd ydych chi’n uniaethu?

edit
 Benyw: 39 (38.6%)Gwryw: 58 (57.4%)Arall: 2 (2.0%)Ddim yn dymuno ateb: 2 (2.0%)
  •   Benyw: 39 (38.6%)
  •   Gwryw: 58 (57.4%)
  •   Arall: 2 (2.0%)
  •   Ddim yn dymuno ateb: 2 (2.0%)

Ymatebodd 101 o bobl i’r cwestiwn hwn.

Mae’r ganran o ddarllenwyr gwrywaidd (57.4%) yn debyg i ganlyniadau arolwg WMF o ddarllenwyr yn 2011. Fe wnaeth eu hymchwil ganfod fod gan Wicipedia fwy o ddarllenwyr gwrywaidd yn gyffredinol, ond mae hyn yn neilltuol o amlwg yn y Deyrnas Unedig, yr Aifft ac Awstralia, ble mae dros 60% o ddarllenwyr yn wrywod. Maint eu sampl ar gyfer y DU yn 2011 oedd 250 ymateb. Mae dadansoddiad fesul gwlad sy’n rhan o’r Deyrnas Unedig ar gael, ond o gofion fod poblogaeth Cymru yn 5% poblogaeth y DU, mae’n debyg fod llai nag 20 o bobl o Gymru wedi ymateb yn 2011. Mae hyn felly yn cynnig syniad llawer mwy eglur i ni o gyfansoddiad darllenwyr Wicipedia Cymraeg.

Roedd y dadansoddiad o rywedd yn amrywio yn ôl grwp oedran, ac ymhlith pobl oedd yn 34 mlwydd oed neu’n iau, roedd 50.0% o atebwyr yn wrywod a 44.1% yn fenywod. I’r gwrthwyneb, ymhlith pobl oedd yn 55 mlwydd oed neu’n hŷn, dim ond 29.4% o ddarllenwyr oedd yn fenywod, tra bod 67.7% ohonynt yn wrywod.

Q2 Beth yw eich ystod oedran?

edit
50,000
100,000
150,000
200,000
10
20
30
40
Dan 16
16-19
20-44
45-64
65-74
75 dros
  •   Cyfriffiad 2011
  •   Arolwg Wicipedia Cymraeg 2017


5
10
15
20
25
30
Dan 16
16-24
25-34
35-44
45-54
55-64
65-74
75-84
85 dros

Ymatebodd 101 o bobl i’r cwestiwn hwn.

Roedd y rhaniad hwn yn adlewyrchu’n gyffredinol y rhaniad oedran ymhlith siaradwyr Cymraeg a gofnodwyd gan Gyfrifiad y Deyrnas Unedig yn 2011. Mae’r graff isod yn dangos y data o’r ddau arolwg wedi’u mapio i’w cymharu â’i gilydd. Mae’r grwpiau oedran 20–44 yn cael eu cynrychioli’n arbennig o gryf. Yr ystod oedran sydd wedi’i dangynrychioli ymhlith darllenwyr Wicipedia Cymraeg yw’r ystod oedran 15 mlwydd oed neu iau. Mae’n bosibl fod hyn oherwydd eu bod yn llai tebygol o lenwi’r arolwg, yn hytrach nag adlewyrchiad o’u defnydd o Wicipedia.

Q3 Lleoliad

edit
 Cymru: 80 (79.2%)Lloegr: 13 (12.9%)Yr Ariannin: 0 (0.0%)Arall: 8 (7.9%)
  •   Cymru: 80 (79.2%)
  •   Lloegr: 13 (12.9%)
  •   Yr Ariannin: 0 (0.0%)
  •   Arall: 8 (7.9%)

Ymatebodd 101 o bobl i’r cwestiwn hwn.

Q4 Ar ba lefel y gallwch chi siarad, darllen neu ysgrifennu Cymraeg?

edit
Ddim o gwbwl Ychydig Cyffredin Rhugl Cyfanswm yr ymatebion
Siarad 2 2 16 81 101
Darllen 0 7 14 80 101
Ysgrifennu 1 9 17 74 101

Ymatebodd 101 o bobl i’r cwestiwn hwn; matrics, un ateb i bob cwestiwn.

Efallai fod hyd at 10% o ddarllenwyr cy.wp yn credu nad oes ganddynt y sgiliau ieithyddol priodol i ysgrifennu erthyglau ar gyfer Wicipedia, ond efallai byddai pobl yn gallu creu fersiynau llafar o erthyglau WP. Pe bai llif gwaith rhwydd gallai hyn fod yn ddefnyddiol.

Q5 Pa un o’r canlynol yw’r disgrifiad gorau o lefel eich addysg?

edit
10
20
30
40
50
Cynradd
Uwchradd
Gradd Prifysgol
Uwch-raddedig
Arall

Ymatebodd 101 o bobl i’r cwestiwn hwn; dewiswch un.

Roedd cyfrifiad y DU yn 2011 yn darparu gwybodaeth ynghylch y lefel uchaf o addysg oedd pobl 16–64 mlwydd oed wedi’i gael; roedd gan 29.7% radd prifysgol, roedd 46.9% wedi cael addysg uwchradd, ac nid oedd gan 15% unrhyw gymwysterau. [1] Mae 81 o atebwyr yr arolwg yn rhan o’r ystod oedran hwn. Y gwahaniaeth mwyaf nodedig yw’r ffaith fod 81.5% o’r grwp a arolygwyd wedi bod i brifysgol, mwy na dwywaith cyfartaledd Cymru a Lloegr. Roedd ‘darllenwyr brwd’ (gweler C6) yn fwy tebygol o fod wedi mynychu prifysgol (83.4% o’i gymharu â 71.6%).

Q6 Pa mor aml fyddwch chi’n darllen Wicipedia Cymraeg?

edit
5
10
15
20
25
30
Unwaith y mis neu lai
1–3 gwaith y mis
4–5 gwaith y mis
2–3 gwaith yr wyth's
3–5 gwaith yr wyth's
6–7 gwaith yr wyth's
O leiaf unwaith bob diwrnod

Ymatebodd 101 o bobl i’r cwestiwn hwn; dewiswch un.

Fe wnaeth yr arolwg o ddarllenwyr a wnaed gan WMF yn 2011 ddisgrifio ‘darllenwyr brwd’ fel rhai sy’n “troi at Wikipedia fwy na phum gwaith y mis”. Mae 33.6% o bobl yn perthyn i’r categori hwn o blith darllenwyr Wicipedia Cymraeg, cryn dipyn yn is na’r 49% o bob darllenwr o arolwg 2011. Roedd benywod (33.3%) bron iawn yr un mor debygol o fod yn ddarllenwyr brwd â gwrywod (31.0%), sy’n awgrymu lefel debyg o ymddiriedaeth ymhlith y ddau grŵp.

Roedd pobl dan 34 mlwydd oed yn fwy tebygol o fod yn ddarllenwyr brwd (41.2%), ac roedd y rhai oedd yn 55 mlwydd oed neu’n hŷn yn llai tebygol o fod yn ddarllenwyr brwd (23.5%).

Q7 A oes gennych chi ddiddordeb mewn ysgrifennu ar gyfer Wicipedia Cymraeg?

edit
 Ddim o gwbwl: 26 (25.7%)Ychydig Ddiddordeb: 54 (53.5%)Diddordeb mawr: 21 (20.8%)
  •   Ddim o gwbwl: 26 (25.7%)
  •   Ychydig Ddiddordeb: 54 (53.5%)
  •   Diddordeb mawr: 21 (20.8%)

O blith y 21 o bobl a ddywedodd fod ganddynt ddiddordeb cryf mewn dysgu sut i olygu, mae 66.7% yn wrywod a 23.8% yn fenywod. Yn gyffredinol, roedd gan bobl 55 mlwydd oed neu hŷn ychydig o ddiddordeb mewn golygu. Roedd gan 32.4% o bobl oedd yn 34 mlwydd oed neu’n iau ddiddordeb cryf mewn dysgu sut i olygu.

Q8 A ydych chi erioed wedi golygu Wicipedia Cymraeg?

edit
 Do: 33 (32.7%)Naddo: 64 (63.4%)Ddim yn siwr: 4 (4.0%)
  •   Do: 33 (32.7%)
  •   Naddo: 64 (63.4%)
  •   Ddim yn siwr: 4 (4.0%)

Ymatebodd 101 o bobl i’r cwestiwn hwn; dewiswch un.

Roedd ‘darllenwyr brwd’ yn llawer mwy tebygol o fod wedi golygu Wicipedia Cymraeg, a dywedodd 47.1% eu bod wedi golygu rhywbeth, o’i gymharu â 25.4% o’r rhai sy’n darllen Wicipedia yn llai aml.

Q8a Os na, a fyddech chi’n ystyried golygu pe bai gennym ni:

edit
 Gwell cyfarwyddiadau: 30 (61.2%)Sesiynau hyfforddi byw: 16 (32.7%)Gwell hyfforddi byw: 3 (6.1%)
  •   Gwell cyfarwyddiadau: 30 (61.2%)
  •   Sesiynau hyfforddi byw: 16 (32.7%)
  •   Gwell hyfforddi byw: 3 (6.1%)

Ymatebodd 49 o bobl i’r cwestiwn hwn; dewiswch un.

Awgrymodd 74.0% o’r bobl nad oeddent yn ddarllenwyr brwd y byddai ‘cyfarwyddiadau gwell’ yn eu cymell i olygu. Ymhlith ‘darllenwyr brwd’, roedd llawer mwy o ddiddordeb mewn cael sesiynau hyfforddi byw, a nodwyd hynny gan hanner y 22 o bobl o’r grŵp hwn. Roedd menywod yn fwy tebygol o feddwl fod sesiynau hyfforddiant byw yn ddefnyddiol (45.0%) ac roedd dynion yn fwy tebygol o ofyn am gyfarwyddiadau gwell (71.4%).

Q9 Pam rydych chi’n darllen Wicipedia Cymraeg?

edit
10
20
30
40
50
60
70
80
Diddordeb a hwyl
Gwaith ysgol/prifysgol
Gwaith pob dydd
I addysgu eraill mewn dosbarth
Arall

Ymatebodd 100 o bobl i’r cwestiwn hwn; caniateir nifer o atebion.

Y prif ffactor oedd yn cymell dynion i ddarllen Wicipedia oedd diddordeb a mwynhad (82.5%) wedi’i ddilyn gan waith beunyddiol (28.1%). Er bod yr un peth yn wir i fenywod, mae’r cyfrannau yn wahanol iawn; roedd 51.3% o fenywod yn darllen Wicipedia er diddordeb a mwynhad, a 41% oherwydd gwaith beunyddiol. Roedd menywod hefyd fwy na dwywaith yn fwy tebygol na dynion o ddefnyddio Wicipedia i addysgu pobl eraill yn y dosbarth (15.4% o’i gymharu â 7.0%).

Ymhlith pobl dan 25 mlwydd oed, roedd cyfran gyfartal yn ei ddefnyddio at ddibenion gwaith ysgol/prifysgol ac er diddordeb a mwynhad (y ddau gategori yn 55%). Yn achos pobl oedd yn 25 neu’n hŷn, roedd 73.8% o bobl yn defnyddio Wicipieda er mwynhad, a 31.3% oherwydd eu gwaith.

Fe wnaeth ‘darllenwyr brwd’ restru diddordeb a mwynhad (80.0%), gwaith beunyddiol (56.0%) a gwaith ysgol/prifysgol (24.0%) fel eu tri defnydd pennaf. Ymhlith darllenwyr llai aml, roedd cyfran lai yn darllen er mwynhad ac oherwydd gwaith beunyddiol (67.9% a 28.4% yn eu trefn) ac roedd cyfran lai yn darllen Wicipedia oherwydd gwaith ysgol/prifysgol (23.5%). Yn ddiddorol iawn, dim ond un darllenwr brwd oedd yn defnyddio Wicipedia i addysgu eraill o’i gymharu â 9 o ddarllenwyr llai aml.

Q10 I ba raddau ydych chi’n cytuno neu’n anghytuno â phob un o’r datganiadau canlynol ynghylch ansawdd erthyglau Wikipedia yn Gymraeg?

edit
Anghytuno'n llwyr Anghytuno Dim barn Agree Cytuno'n llwyr Cyfanswm
Mae’r wybodaeth yn gywir ac yn ddibynadwy 3 5 5 64 18 95
Mae’r wybodaeth yn cynnig trosolwg eithaf da o rai pynciau 1 6 5 53 31 96
Mae’r wybodaeth yn niwtral ac yn ddideudd 2 4 10 58 22 96
Mae’r wybodaeth yn cwmpasu ystod eang o bynciau 1 10 12 44 29 96
Gall rhywun sydd ddim yn arbenigwr ddeall yr wybodaeth 1 2 7 58 26 94

Mae'r cwestiwn yma'n debyg iawn i gwestiynau'r WMF ynghylch ansawdd yn 2011.Yr unig wahaniaeth yw fod yr Arolwg yn 2011 wedi defnyddio graddfa allan o ddeg yn hytrach na phump.

  Y nifer o arolwg y WMF (2011) Y nifer o arolwg Wicipedia Cymraeg (2017)
Mae’r wybodaeth yn gywir ac yn ddibynadwy 7.54 7.87
Mae’r wybodaeth yn cynnig trosolwg eithaf da o rai pynciau 7.77 8.23
Mae’r wybodaeth yn niwtral ac yn ddideudd 7.64 7.96
Mae’r wybodaeth yn cwmpasu ystod eang o bynciau 8.23 7.88
Gall rhywun sydd ddim yn arbenigwr ddeall yr wybodaeth 8.34 8.26
Cyfartaledd 7.90 8.04

Dengys hyn fod mwy o ddarllenwyr y Wicipedia Cymraeg yn credu fod Wicipedia'n ddibynadwy ac yn niwtral na darllenwyr y Wikipedia Saesneg yn 2011, ond fod ynddo lai o bynciau.

a) Mae’r wybodaeth yn gywir ac yn ddibynadwy

edit

Atebodd 95 o bobl y cwestiwn hwn.

Ar y cyfan, mae 86% yn cytuno neu’n cytuno’n llwyr â’r datganiad. Roedd dynion a’r sawl oedd yn 45 mlwydd oed neu’n hŷn yn fwy tebygol o gredu fod yr wybodaeth yn ddibynadwy (94.6% a 91.3% yn eu trefn) na merched a phobl dan 45 mlwydd oed (82.9% ac 81.6%). Ychydig iawn o wahaniaeth oedd yna yn ymatebion darllenwyr brwd a darllenwyr llai aml i’r cwestiwn hwn.

b) Mae’r wybodaeth yn cynnig trosolwg eithaf da o rai pynciau

edit

Atebodd 96 o bobl y cwestiwn hwn

Ar y cyfan, mae 88% yn cytuno neu’n cytuno’n llwyr â’r datganiad. Roedd merched a’r sawl oedd yn 45 mlwydd oed neu’n hŷn yn fwy tebygol o gredu fod Wicipedia yn cynnig trosolwg da (94.5% a 93.5% yn eu trefn) na dynion a phobl dan 45 mlwydd oed (89.3% ac 82.0%). Yn ddiddorol iawn, roedd darllenwyr anaml yn fwy tebygol na darllenwyr brwd o gredu fod Wicipedia yn cynnig trosolwg da o rai pynciau (90.5% o’i gymharu ag 81.8%).

c) Mae’r wybodaeth yn niwtral ac yn ddideudd

edit

Atebodd 96 o bobl y cwestiwn hwn

Ar y cyfan, mae 88% yn cytuno neu’n cytuno’n llwyr â’r datganiad. Roedd merched a’r sawl oedd yn 45 mlwydd oed neu’n hŷn yn fwy tebygol o gredu fod Wicipedia yn niwtral ac yn ddiduedd (91.7% a 89.1% yn eu trefn) na dynion a phobl dan 45 mlwydd oed (83.9% ac 78.0%). Er bod darllenwyr anaml yn credu yn gyffredinol fod Wicipedia yn cynnig trosolwg da, roeddent yn llai tebygol na darllenwyr brwd o gredu ei fod yn niwtral (81.0% o’i gymharu ag 87.9%).

d) Mae’r wybodaeth yn cwmpasu ystod eang o bynciau

edit

Atebodd 96 o bobl y cwestiwn hwn

Ar y cyfan, mae 76% yn cytuno neu’n cytuno’n llwyr â’r datganiad. Roedd merched a’r sawl oedd yn 45 mlwydd oed neu’n hŷn yn fwy tebygol o gytuno â’r datganiad hwn (83.3% a 78.3% yn eu trefn) na dynion a phobl dan 45 mlwydd oed (76.8% ac 74.0%). Roedd darllenwyr brwd ychydig yn fwy tebygol o gytuno fod Wicipedia yn cwmpasu ystod eang o bynciau na darllenwyr anaml (78.8% o’i gymharu â 74.6%).

e) Gall rhywun sydd ddim yn arbenigwr ddeall yr wybodaeth

edit

Ymatebodd 94 o bobl i’r cwestiwn hwn.

Ar y cyfan, mae 89% yn cytuno neu’n cytuno’n llwyr â’r datganiad. Roedd merched a’r sawl oedd yn 45 mlwydd oed neu’n hŷn yn fwy tebygol o gredu fod Wicipedia wedi’i ysgrifennu mewn modd sy’n hawdd ei ddeal (94.5% a 90.0% yn eu trefn) na dynion a phobl dan 45 mlwydd oed (87.0% ac 88.6%). Roedd darllenwyr brwd hefyd yn fwy tebygol o ystyried fod Wicipedia wedi’i ysgrifennu mewn modd hawdd ei ddeall na darllenwyr anabl, ac fe wnaethant nodi mai dyna yw un o’r rhesymau pam y byddant yn troi at y wefan yn amlach (93.9% o’i gymharu ag 86.9%).

Casgliadau

edit

Ar y cyfan, mae’r arolwg hwn yn cyfleu darlun cadarnhaol o ddarllenwyr Wicipedia Cymraeg. Mae cyfansoddiad demograffig y gynulleidfa yn debyg i’r hun a ganfuwyd yn ystod arolwg WMF ei hun yn 2011, oedd yn cynnwys y DU, ac mae’r ystod oedran yn debyg i ystod oedran siaradwyr Cymraeg yng nghyfrifiad y DU yn 2011.

Mae gan y gwyddoniadur ddarllenwyr brwd a rhai llai aml, ac mae cyfran iach o’r rheiny yn bobl sy’n dymuno dysgu sut i gyfrannu at Wicipedia. Mae gwahaniaeth amlwg o ran sut hoffai dynion a merched ddysgu am olygu, a byddai’n well gan ddynion gael cyfarwyddiadau ysgrifenedig a byddai’n well gan fenywod gael digwyddiadau wyneb yn wyneb byw. Mae hyn yn awgrymu fod y dull a ddefnyddir gan Wikimedia UK a Wicipedwyr preswyl – yn enwedig Jason Evans yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru – yn canolbwyntio ar bobl sydd ar y cyfan wedi’u tangynrychioli ymhlith golygyddion Wicipedia.

Mae’r rhan fwyaf o bobl yn tueddu i ddefnyddio Wicipedia Cymraeg er diddordeb neu hwyl, ond mae canran sylweddol hefyd yn ei ddefnyddio at ddibenion gwaith ac addysg. O gofio fod pobl dan 25 mlwydd oed yn fwy tebygol o fod mewn addysg, nid yw’n syndod efallai fod hanner y garfan honno yn defnyddio Wicipedia at ddibenion ysgol neu brifysgol, ond mae hynny’n awgrymu derbyniad calonogol o Wicipedia fel ffynhonell o wybodaeth.

Roedd darllenwyr yn gadarnhaol ar y cyfan ynghylch cynnwys Wicipedia, ac er mai ehangder y meysydd a gwmpasir oedd y maes gwannaf, roedd tri chwarter o bobl yn dal yn credu fod Wicipedia yn gwneud yn dda yn y cyd-destun hwn. Y ffactorau allweddol sy’n annog pobl i ddarllen Wicipedia oedd y ffaith ei fod wedi’i ysgrifennu mewn ffordd hawdd ei ddeall a dyfnder yr ymdriniaeth â phynciau – dwy elfen sy’n neilltuol o bwysig er mwyn annog pobl i ddychwelyd at y safle fel adnodd.

Ar y cyfan, pwysleisiodd yr arolwg hwn bwysigrwydd digwyddiadau wyneb yn wyneb byw er mwyn sbarduno gwella sgiliau golygu.

Ond, efallai'n bwysicach na dim, roedd 82 o'r darllenwyr a ymatebodd o'r farn fod y 'wybodaeth yn gywir ac yn ddibynadwy', a dim ond 8 yn anghytuno. Roedd 80 o'r farn fod y 'wybodaeth yn niwtral ac yn ddideudd' a dim ond 6 yn anghytuno. Mae hyn yn uwch na'r farn bydeang (a wnaed yn 2011) ac yn cadarnhau ein bod ar y trywydd iawn.

Cyfeiriadau

edit