Meetup/Cardiff/4/cy

Cymraeg · English

Wicigyfarfod Caerdydd Rhif 4 edit

Dydd Sul 22 Chwefror 2015 — 12:00 ymlaen edit

Lleoliad: The Central Bar (Wetherspoons), 39 Plas Windsor CF10 3BW

Ceir WiFi yn y lleoliad #cdfwiki

Mae wicigyfarfod yn gyfle i ddefnyddwyr prosiectau Wikimedia gwrdd â'i gilydd a...

  • Sgwrsio am Wicipedia, Wikimedia, cynnwys agored neu unrhyw bwnc arall a aiff â'n pryd
  • Bwyta ac yfed (ond nid yw diodydd alcoholig na bwyd yn orfodol!)

Digwyddiadau cymdeithasol anffurfiol ydy wicigyfarfodydd yn bennaf. Gallwch ddisgwyl cwrdd â Wicipedwyr brwd iawn, ond estynir gwahoddiad agored i unrhyw un â diddordeb mewn darganfod mwy am Wicipedia a'i chwaer-brosiectau (yn Gymraeg neu yn Saesneg) yn ogystal â'r prosiectau yn ymwneud â Wikimedia sy'n cael eu cynnal ar hyn o bryd yng Nghymru. Mae croeso i chi ddod a chael sgwrs am bopeth wicïaidd dros ddiod o'ch dewis.

Darperir WiFi yn y dafarn. Unwaith eto, dydy diodydd alcoholig ddim yn orfodol!

Dod o hyd i ni edit

Mae'r Central Bar yn dafarn yng nghanol y brifddinas, ger Heol y Frenhines ac yn agos at orsaf Heol y Frenhines a arosfannau bysiau Plas Dumfries a Ffordd Churchill. Mae ein bwrdd lawr stâr – cadwch eich llygaid allan am fwrdd â baner Wicipedia!

Yn dod i'r wicigyfarfod edit

Cofrestrwch isod os gwelwch yn dda os ydych yn bwriadu dod. Os hoffech gael eich atgoffa yn nes at yr amser, gadewch nodyn ar ôl eich llofnod.

Ymddiheuriadau edit

Oes cyfarfodydd tebyg yn cael eu cynal yn y Fro Gymraeg, i gyfranwyr Cymraeg (heblaw'r blydi 'steddfod)? AlwynapHuw (talk) 06:22, 15 February 2015 (UTC) 06:20, 15 February 2015 (UTC)[reply]

Nodiadau a dolenni o'r dydd edit