Free Bassel/Banner/cy


Yn Fyr edit

Pwrpas y ddalen hon yw drafftio testun neges CentralNotice a gynigiwyd er mwyn ceisio arbed bywyd Bassel Khartabil, sy'n un o olygyddion Wicipedia.

Y faner a gynigir edit

(a adnabyddir yn y gorffennol fel amgen 7, gyda rhai newidiadau)

Mae'n bosibl fod y gwirfoddolwr Wicipedia a datblygwr y we agoredBassel Khartabil yn cael ei ddienyddio yn Syria.

Rydym yn mynnu ei fod yn cael ei ryddhau'n ddiamod gan Lywodraeth Syria. Gallwch Chi helpu.

Symudwch!

Y faner a argymhellir edit

freebassel_2015 (Rhagweld ar Wici)

Drafftiau cynharach edit

Posibilrwydd 1 edit

Ceir adroddiad gan Amnest Ryngwladol fod ein cyd-Wicipediwr Bassel Khartabil wedi cael ei ddedfrydu i farwolaeth gan lywodraeth Syria. Rydym yn mynnu derbyn newyddion am ei dynged ond hefyd ei fod yn cael ei ryddhau ar unwaith. Ein gwaith fel Wicipedwyr yw dod a gwybodaeth niwtral i'r darllenwr. Dyma reswm pellach pam y dylid diogelu Bassel.

Posibilrwydd 2 edit

Ceir adroddiad gan Amnest Ryngwladol fod ein cyd-Wicipediwr Bassel Khartabil wedi cael ei ddedfrydu i farwolaeth gan lywodraeth Syria. Mae'r mudiad Wicimedia wastad wedi credu mewn rhyddid mynegiant a mynediad agored i wybodaeth. Fel cymuned, mynnwn gael newyddion am ei dynged, mynnwn ei fod yn cael ei ryddhau ar unwaith.

Posibilrwydd 3 edit

Cafwyd adroddiad fod y gwirfoddolwr a'r golygydd Wicipedia Bassel Khartabil wedi ei ddedfrydu i farwolaeth gan Lywodraeth Syria. Mynnwn ei fod yn cael ei ryddhau ar unwaith.Darllenwch ragor...

Posibilrwydd 4 (sy'n gosod y cyd-destun) edit

(archifwyd i'r dudalen gan yr awdur; #5 yn well)

Posibilrwydd 5 (sy'n rhoi'r cyd-destun; wedi'i seilio ar #4; byrrach ac nid yw'n son am AL) edit

Mae'n bosibl fod ein cyd-Wicipediwr Bassel Khartabil wedi'i ddedfrydu i farwolaeth gan Lywodraeth Syria. Credir mai'r rheswm dros ei garcharu yw ei fod wedi mynnu mynegi ei hun yn agored. Mae aelodau cymuned Wicimedia yn mynnu derbyn newyddion am ei dynged, ac yn galw am iddo gael ei ryddhau ar unwaith.

Posibilrwydd 6 (wedi'i seilio ar #5) edit

Mae'n bosib fod un o olygyddion Wicipedia, Bassel Khartabil wedi'i ddedfrydu i farwolaeth gan Lywodraeth Syria. Mae ei hawl i fynegi ei hun yn agored yn cael ei roi fel rheswm dros ei garchariad gwleidyddol. Mae aelodau cymuned Wicipedia yn mynnu derbyn newyddion am ei dynged, ac yn galw iddo gael ei ryddhau ar unwaith. #FreeBassel

Posibilrwydd 7 edit

Mae'n bosib fod un o olygyddion Wicipedia, Bassel Khartabil wedi'i ddedfrydu i farwolaeth oherwydd ei waith dros mynegiant rhydd a mynediad i wybodaeth. Mynnwn ei fod yn cael ei ryddhau ar unwaith ac heb amodau, gan Lywodraeth Syria. Medrwch chi helpu — gweithredwch nawr.

Cynlluniau blaenorol edit

Cysyniad 1 edit

Delwedd: File:Bassel Khartabil (Safadi).jpg gan Joi Ito

 


Cysyniad 2 edit

Delwedd: File:Bassel Khartabil (Safadi).jpg gan Joi Ito